O'r Parsel Canol

Saturday, 23 June 2012

Esyllt Harker | Beyond The Border Wales International Storytelling Festival

Esyllt Harker | Beyond The Border Wales International Storytelling Festival Gwyl yn dechrau ar 29 Mehefin  sy'n rhoi llwyfan i lawer o dalentau gan gynnwys Ben Haggarty, Daniel Morden, ac Esyllt Harker sy'n perfformio sioe o'r enw Tair, am rai o ferched y cyfnod cynnar — Elen (Breuddwyd Macsen), y dywysoges Heledd, a Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan. 

Henffych, Dr James Archdderwydd!

Newyddion  gwych iawn heddiw fod Dr Christine James wedi'i hethol yn archdderwydd. Yn ogystal ag ennill y Goron yn Eisteddfod 2005, gwnaeth waith arloesol ar lawysgrifau canoloesol, ar Gyfraith Hywel Dda, ar gyrchfannau pererindod yn yr Oesoedd Canol, ar y baledi a'r canu rhydd, ar farddoniaeth Gwenallt, a llu o bethau eraill. Hi oedd golygydd cylchgrawn Taliesin gyda Manon Rhys.  Mae hi'n dysgu ym Mhrifysgol Abertawe ers blynyddoedd, yn yr Adran Gymraeg sydd bellach yn rhan o 'academi' a luniwyd drwy gyfuno gwahanol adrannau a gwasanaethau. Ymddangosodd  ei chadwyn o englynion milwr am Lyfr Du Caerfyrddin yn ddiweddar yn y casgliad 26 Trysor. Mae hi'n fardd cynnil, cyfewin — un o'r goreuon. 


A fu merched yn archdderwydda o'r blaen? Nid drwy wybod i mi. Beth am yn Iwerddon? Na. Ym myd  stori, fe glywn am Fedelm, banfili  neu 'prydyddes' Connacht yn Iwerddon a fuasai'n dysgu crefft barddoni ym Mhrydain: mae hi'n proffwydo y bydd Cú Chulainn  yn trechu gwyr Wlster. Ym myd hanes, wedyn, yn y blwyddnodion, yn 934, ceir cofnod am farwolaeth Uallach ferch Muinechán sy'n cael ei disgrifio fel banfili Érenn 'prydyddes Iwerddon'. 


Draw ar safle'r Beaker Folk of Husborne Crawley, 'an oasis of fuzzy thinking', dyw'r Archdderwydd Eileen ddim yn rhyw hapus iawn . . . .

Friday, 22 June 2012

Wilfred Davies

Yr wythnos diwethaf, bûm yn angladd Wilfred Davies. Fe'i ganwyd yn Llawrtyd, ac fe fu'n ffarmio'r Duarth ar ystad Doldowlod am flynyddoedd cyn ymddeol a mynd i fyw yng Nghapel Uchaf, cynefin ei wraig, Tiny. Bu Wilfred yn canu ar hyd ei oes faith ac enillodd gannoedd os nad miloedd o gwpanau a gwobrau mewn eisteddfodau mawr a mân. Roedd ei lais tenor yn unigryw.  Bu'n codi 'O Fryniau Caersalem'  ar lan y bedd droeon, a chwith meddwl am y dorf ym Mynwent Cwm Irfon heb ei arweiniad ef y tro olaf hwn. Talwyd teyrnged wych iddo gan Jennifer Drew Parry, y gantores o Aberhonddu, a gwelais yno gantores o'r Parsel hefyd  — un sy'n byw yn Nhal-y-bont — a chantores arall o'r Penrhyn. 

Tuesday, 19 June 2012

Aberystwyth yn lle diogel i fyfyrwyr

Llai o drais yn Aberystwyth (a Buckingham a Chaer Wair (Durham) nag ym mhrifysgolion eraill Gwledydd Prydain, meddai'r newyddion  heno.  Y rhai gwaethaf, meddir, yw  Llundain, Manceinion Metropolis, Leeds, Salford, Birmingham. Hyn yn profi heb unrhyw amheuaeth fod y Cymry'n wâr, a bod ethos Tacsi Mam-gu yn drech na'r hwliganiaid a'r rafins yn y parthau hyn. Pethau'n dawel hefyd tua Llambed a Chaerfyrddin dan broctoriaid Dewi Sant a'r Drindod.

Monday, 18 June 2012

Boston Legal

Wow . . . . mae llawysgrif Boston 5, ym meddiant y Massachusetts Historical Society of Boston, yn mynd dan forthwyl Sotheby sy'n amcanu fod ei gwerth rhwng £500,000 a £7o0,000. Llawysgrif o ganol y 14 ganrif ydyw, yn cynnwys y fersiwn o Gyfraith Hywel Dda a elwir weithiau yn Ddull Blegywryd. Fe ddisgrifiwyd y llawysgrif flynyddoedd yn ôl gan Morfydd Owen yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (rhifyn 22, 1966-68). 
Gobeithio'n wir y bydd yn cael ei phrynu i'r genedl gan y Llyfrgell Genedlaethol er cof am ei darllenydd hynaf, yr Athro Dafydd Jenkins a fu farw'n ddiweddar yn 101 oed.




Wednesday, 13 June 2012

Gair yr wythnos: 'winfedd

Y gair dan sylw yw ewinfedd 'a nail's breadth',  gair cyfarwydd iawn i mi, yn cael ei ddweud fel winfedd, yn golygu 'rhyw ychydig bach iawn'. Ond mae cerdd 'Golud' gan J. Edward Williams yn rhoi'r argraff mai gair prin yw hwn bellach:
'Symudwch y bwrdd 'ma ewinfedd,'
  Meddai drachefn â'r un gwynt,
A minnau'n trysori'r ymadrodd
  Goludog o'r hen oesoedd gynt.
 Dywed y bardd fod diflaniad ymadroddion fel symud y fam (hysterectomy) yn dangos cymaint yr erydu a fu ar adnoddau'r iaith: 'Ynghladd y maent hwy dan domennydd/ Ein dwythieithrwydd diawledig ni'.  Ennill a cholli, yr un neges ag yn Y Llofrudd Iaith gan Gwyneth Lewis.

Monday, 11 June 2012

Coleg Trefeca


Coleg Trefeca, originally uploaded by nicdafis.

Transit of Venus: Taith Gwener ar draws yr Haul 1761

Diddorol ar y naw oedd darllen yn y cylchgrawn ysblennydd, Brycheiniog, rhifyn 41, y manylion am Joseph Harris, brawd Hywel Harris, Trefeca, yn gwylio taith Gwener yn groes i'r haul yn 1761 (hefyd ar 6 Mehefin!), ac am yr offer a ddefnyddiwyd ganddo — y sbïenddrych a wnaeth ef ei hun yn eu plith. Mae'r gwr hwn o ddiddordeb neilltuol i awdur y blog hwn am iddo gael ei fedyddio yn eglwys Gwenddolen, Talgarth.

Saturday, 9 June 2012

‘Y Ddraig’ newydd ar fin hedfan


Cylchgrawn newydd, ie, mewn ffordd ond erbyn 1878 roedd cylchgrawn Cymraeg o'r enw Y Ddraig yn bodoli'n barod yn Aberystwyth, ac mae cenedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg wedi bod yn cyhoeddi ynddo dros y blynyddoedd. Ar ôl cyfnod tawel, dyma'r Ddraig yn aildanio, diolch i egni a brwdfrydedd criw o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n astudio modiwl Cymraeg Proffesiynol. Nhw sydd wedi comisiynu, golygu, dylunio, a threfnu cyhoeddi'r cylchgrawn — gyda 117 o dudalennau, mae'n fargen am £5. Os ydych am gael copi drwy'r post, anfonwch at cymraeg@aber.ac.uk.

Yn y rhifyn y mae cyfweliad â Gruffudd Antur, bardd y Gadair yn Steddfod yr Urdd 2012, ynghyd â cherdd newydd ganddo, a cherdd yn ei gyfarch gan y Prifardd Huw Meirion Edwards. Mae cyfweliadau â phobl ddifyr eraill — gan gynnwys Meredydd Evans, Mihangel Morgan, Catrin Haf Jones, y Parchedig Brifardd John Gwilym Jones, Bethan Gwanas, Palas Print, Cardia Cofi, Elliw Pritchard, ynghyd â llu o gerddi a straeon newydd — gan Saran Lynch, Jacob Ellis, Adam Jones, Megan Lewis, Teleri Haf Jones, Gwenno Edwards, Jacob Garner ac eraill.

Wednesday, 6 June 2012

Y Mor Canoldir a'r Aifft


Y Mor Canoldir a'r Aifft, originally uploaded by Gwenddolen.

Can mlynedd yn ôl yn y Swdan

Union gan mlynedd yn ôl, yn 1912, dyma T. Gwynn  Jones, plentyn ei amser, yn myfyrio ar natur a thymer trigiolion Swdan.
Un hagr yw'r Swdaniad yn gyffredin, yn enwedig pan na bo dyn na dynes, ond eunuch. Y mae ei wallt yn wlanog a chyrliog, yn debyg iawn yn wir i wlan oen bach du. Y mae ei lygaid yn fawrion, a'r gwyn edrych yn wyn iawn yn erbyn düwch ei groen . . . . .  Ar ei hagraf, y mae efe yn wir yn hagr iawn, ond y mae ambell un nad ellir dywedyd ei fod yn gwbl hyll. Gwelais rai felly, ac adnabûm un neu ddau a rhywbeth mwyn yn eu hwynebau.
Ymlaen ag ef i ganmol rhai, fodd bynnag, am eu gallu i adrodd straeon, am fod yn rhyfelwyr da, am fod â 'mwy o blwc ynddynt nag y sydd yn yr Arabiaid'. 'A chyda chware teg', meddai, 'gallent ddyfod yn eu blaenau yn gyflym'. Serch hyn i gyd, mae rhai pethau difyr yn y llyfr hwn a ysgrifennwyd fel cyfres o lythyron at ei wraig yn wreiddiol, o wahanol rannau o gwmpas Môr y Canoldir (Tiwnis, Malta, Alecsandria, Cairo, etc.). Hyn tua'r adeg pan oedd T.E. Lawrence yn y Dwyrain Canol yn cloddio gyda'r archaeolegwyr D.G. Hogarth a Leonard Woolley a Flinders Petrie, a chyn iddo ddechrau ar ei antur fawr gyda Gwrthryfel yr Arabiaid.

Mae T. Gwynn Jones yn awgrymu y gallai'r sawl sydd â diddordeb pellach yn yr ardal hon ddarllen The Dawn of History gan J.L.Myres, a Histoire Ancien des Peuples de l'Orient gan G. Maspero. Mae'r copi o'r llyfr cant oed sydd o'm blaen yn dweud 'Gwobr Ysgol Sabbathol Ysgoldy i Rowland Ffrancon Williams, Caledffrwd Terrace am fynd yn anrhydeddus trwy waith Safon iii, 1919-20'. Gobeithio fod Rowland yntau wedi cael blas ar y llyfr.

Tuesday, 5 June 2012

Deng mil o ymwelwyr wedi bod yma

Dros 10,000 o ymwelwyr dilys wedi bod yma ar y safle ers 2009 pan ddechreuais flogio — hynny ar ôl dod dros salwch go hir. Dewch â'ch sylwadau!

Friday, 1 June 2012

Michael Wood a'r Great British Story gynhwysol

Cris Dafis yn cwyno ar raglen Caryl a Daf heddiw nad oedd rhaglen hanes y bytholwyrdd Michael Wood wedi rhoi digon o sylw i'r bobloedd a oedd ym Mhrydain cyn y Rhufeiniaid, a rhwng y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Wel fe gawsom ein hawr fawr pan oedd Wood et al. lawr ar draeth Llangrannog yn crybwyll hen farddoniaeth y Cymry. Cafodd Idris Reynolds gyfle i unioni pethau, ac i roi sylw dyledus i'n traddodiad drwy ddarllen dyfyniad o Armes Prydain Fawr o'r ddegfed ganrif. Ond och a gwae — daeth marannedd mas fel maranned; hedd mas fel hed,  meuedd fel meued, etc. Cwbl ddisynnwyr i bawb oni bai am yr is-deitlau. 'And that's all in cynghanedd!', gwenodd Idris heb droi blewyn.