O'r Parsel Canol

Saturday 6 November 2010

Salamanca, Plaza Mayor

Bydoedd

Cymaint o bethau da yng 'nghofiant cyfnod' Ned Thomas, Bydoedd, a lansiwyd yn ddiweddar. Mae'r bennod ar ei gyfnod ar Bodmin yn dysgu Rwsieg yn ystod ei wasanaeth milwrol ac yntau'n 18 oed yn agoriad llygad, fel y mae hanes cyfnod Salamanca. Yno ceir sôn am yr ysgolhaig Antonio Tovar a fu'n Weinidog Propaganda dros Franco am gyfnod, ond serch hynny, a fu wedyn yn hybu gyrfa'r gweriniaethwr pybyr, Koldo Mitxelena, yr ieithegwr a roddodd yr iaith Fasgeg ar ei thraed fel iaith unedig, safonol. Mae'r bennod agoriadol am blentyndod Ned Thomas yn yr Almaen ac yn y Swistir yn gyfareddol. Yma hefyd y mae'r hanes am sut yr ensyniwyd (gan Emyr Llew o bawb) ei fod yn ysbïwr. Roeddwn wedi clywed y si pan gwrddais â NT gyntaf, ac yntau'n rhedeg dosbarth nos yn y 70au ar waith Raymond Williams. Ond ni wyddwn y manylion. Bydd gwerthu mawr ar y gyfrol hon — mae ei darllen hi'n addysg ym mhob ffordd, yn bleser, ac yn ysbrydoliaeth. Sylweddoli o'r newydd gymaint o golled fu peidio â chael Y Byd i'w le.

*Honcos Prittanikos

'Llewellyn' yn cyfeirio ei ddarllenwyr at wefan ddiddorol os boncars, sef Prittanika: the language and world of the Prittani. Nod cyfaddefedig y safle yw 'to give those interested a basic knowledge of reconstructed Ancient British, covering all the basics. Although it is impossible to become fluent in a language lost for as long as Ancient British, the lessons will provide enough vocabulary and grammar (more advanced vocabulary and grammar can be found in the Dictionary and Grammar pages), to allow Ancient British to become a functioning language again'. Jest y peth ar gyfer y gwneuthurwyr ffilm hynny sy'n ein holi ni am swynion mewn Hen Frythoneg (ar gyfer Merlin hyd yn oed!).

Thursday 4 November 2010

Pikelet


Pikelet Daze, originally uploaded by painter girl.

Gair 'talk tidy' yr wythnos: pikelet

Pics crynon, pice ar y maen, etc. dan y chwydd-wydr ba ddiwrnod, a minnau'n sôn am pikelets, dantaith nad oedd yn gyfarwydd i'r lleill. Wel beth yw'r cysylltiad fan hyn? Mae'r Old Foodie, y mae gennyf barch i'w ddysg, wedi ffeindio yn Dictionarium Rusticum, Urbanicum, & Botanicum (1726), y ffurf bara-picklet, ac fe gysylltir hyn gan rai fel Helen Gaffney â 'bara pyglyd', oherwydd lliw tywyll 'pitchy' y poncagau bach fflat a thyllog ('like a thin crumpet') a wnaed slawer dydd â buckwheat. Dyna hefyd farn Alan Davidson, sy'n sôn am pikelet fel llygriad a gafwyd yng ngorllewin Canolbarth Lloegr. Ond nid oes sôn am y term bara pyglyd yn Geiriadur Prifysgol Cymru hyd y gwelaf i. Ac mae ffurfiau tebyg fel pice, pics etc. yn cael eu cysylltu yn hytrach â bôn y ferf picio. Sylwadau plis. . . . .

Wednesday 3 November 2010

Drenewydd, Dinefwr, Llandeilo, Lichfield

Diwrnod olaf yr hydref cyn i'r clociau fynd yn ôl. Y trip o ogledd Ceredigion Ddydd Sadwrn i eangderau mwyn sir Gâr fel mynd i wlad dramor. Diwrnod i'w ryfeddu rhwng popeth — cwmni un o'm ffrindiau hynaf a oedd draw dros y Sul o Iwerddon, teisennau hufen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Newton House (Drenewydd), cael lolian yn y llyfrgell a chyffwrdd â phob dim; cael chwarae Chopin ar y Steinway, a chlywed Cynddelw Brydydd Mawr ei hun yn darllen ei gerdd ddadolwch i'r Arglwydd Rhys (Aswynaf nawdd Duw, diamau ei ddawn, etc.). Cerdded lan i'r castell, a rhyfeddu o'r newydd at afon Tywi a'i dolennau hyd y ddôl. Yn y dref, am 4.00 o'r gloch, cawsom fynediad ar y funud olaf (eleni!) i weld yr arddangosfa ragorol sy'n dathlu Llyfr Efengylau Sant Chad. Heb fod erioed i Lichfield ger Birmingham i weld y gwreiddiol ond yn gobeithio gwneud hynny cyn bo hir a gweld angel Lichfield yr un pryd.

Castell Dinefwr


Dinefwr Castle, originally uploaded by Penny Robinson.