O'r Parsel Canol

Tuesday, 20 January 2015

Cynhadledd Syr John Rhys

Rwy'n marcio papurau arholiad ac yn llawn annwyd. Ond mae pethau eraill ar y gweill hefyd, ac un o'r rheini yw'r gynhadledd (y gyntaf o ddwy) i gofio am Syr John Rhys, Ponterwyd, Rhos-y-bol a Rhydychen. Gan fod Rhys wedi gadael ei lyfrau i Goleg Prifysgol Aberystwyth (fel yr oedd e y pryd hynny), a gadael ei bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, mae gan y ddau sefydliad ddiddordeb yng nghanmlwyddiant ei farw, ac yn ei waddol hollt. Yn un peth, dyma ffordd o symud ymlaen tuag at y rhaglen ddigido sy'n mynd i agor y casgliadau hyn lan i'r cyhoedd. Ac yn ail, wrth gwrs, dyma un o feibion enwocaf Ceredigion, un a aeth o dyddyn mynyddig Aberceirio Fach i uwchgynteddau Coleg Iesu heb anghofio'r graig y naddwyd ef ohoni (ymadrodd sy'n briodol i un a ffolai ar arysgrifau cerrig).

Fel curtain-raiser i'r gynhadledd gyntaf, bydd Dr Russell Davies, sydd newydd ymddeol o Brifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Rhys a'i amserau mewn darlith agored yn Hen Neuadd yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Hyn ar Nos Wener 20 Chwefror.  Dylai fod yn achlysur arbennig, ac mae sôn y bydd S4C yn taro heibio.

Wedyn fore trannoeth, am 10.00, bydd sesiynau gan staff y ddwy Lyfrgell. I ddechrau, Elgan Davies, Curadur y Casgliadau Arbennig yn Llyfrgell y Brifysgol, yna bydd Dr Maredudd ap Huw a Nia Mai Daniel yn egluro hyd a lled a natur y casgliadau cyfoethog sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dr Alexander (Sasha) Falileyev gynt o'r Adran Gymraeg yn Aberystwyth, ac yn wreiddiol o St Petersburg, fydd yn siarad nesaf, gan fynd â ni i'r Eidal yn ôl traed Rhys ei hun. Mynd yno i weld cerrig ac arysgrifau arnynt a wnaeth Rhys, ac o nabod Sasha, bydd ganddo luniau ysblennydd i ddod â thaith Rhys yn fyw — ac i gynhesu tipyn arnom ym mis Chwefror.

Nid yw'n gyffredinol hybsys fod yr artist Mary Lloyd Jones o'r un cyff â John Rhys, ond mae hi'n perthyn yn go agos drwy ei mam, ac mae'n rhyfedd iawn sut y mae ei diddordebau mewn hynafiaethau, henebion, llên-gwerin, mytholeg, a 'hen ieithoedd anghofiedig dynol-ryw' yn debyg i rai Rhys ei hun. Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, mae Mary wedi gwneud mwy  o waith haenog gan ddefnyddio asitêt ac adeiladu trwch o ddeunydd o wahanol ffynonellau a chyfnodau. Un o'i harddangosfeydd mwyaf poblogaidd oedd Iaith Gyntaf, ac fe gawsom ganiatâd i ddefnyddio un o'r gyfres honno yn ein deunydd hysbysebu. Bydd cyfle inni glywed peth o hanes Mary, a mwy am y dylanwadau arni fel artist. Mae Lona Mason hithau'n mynd i drafod celf, y tro hwn y portreadau gwahanol sydd o Rhys. Ni welais erioed lun ohono'n wr ifanc, felly rwy'n edrych mlaen i weld beth sydd gan Lona i'w ddangos inni. Dyma lun Christopher Williams (sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol) a baentiwyd ddwy flynedd cyn marwolaeth Rhys.



Yn 1874, yn yr adeilad hwn, sef yr Hen Goleg, y traddododd Rhys ei Lectures on Welsh Philology a gyhoeddwyd yn 1877. Bydd Dr Simon Rodway o'r Adran Gymraeg yn egluro pwysigrwydd y gwaith ac yn holi i ba raddau y mae'r gwaith yn dal yn safonol. Roedd Simon ar Raglen Dei Tomos Nos Sul, yn sôn yn ddifyr iawn am y bardd Celtaidd. Podlediad ar gael yma.  Un arall o'r un tim adrannol fydd wrthi wedyn, sef Dr Richard Glyn Roberts, cyd-olygydd Pa Beth yr Aethoch allan i'w Achub, ac yn fwy diweddar, Diarhebion Llyfr Coch Hergest sydd bron â gwerthu allan, meddan nhw. Bydd Richard yn edrych ar ohebwyr Rhys ar draws Ewrop. Un fydd yno, siwr o fod, fydd Louis Lucien Bonaparte (a anwyd yn Grimley, Swydd Gaerwrangon o bobman!) a oedd yn ieithgi o'r un anian ag ef.


I gloi'r prynhawn,  bydd yr hanesydd pensaerniaeth, Richard Suggett o'r Comisiwn Henebion, yn sôn am sut y daeth Rhys yn un o'r comisiynwyr cynta, ac am ei waith yn diogelu henebion Cymru. Bydd byrddau arddangos gan y Comisiwn yn cael eu gosod yn yr Hen Goleg i gyd-fynd â'r gynhadledd gyntaf hon. Bydd ail gynhadledd ym mis Rhagfyr a fydd yn cyd-fynd â chanmlwyddiant marw Rhys. Cynhelir honno yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dylai'r cwbl ym mis Chwefror fod yn gyfle i ddysgu ac i fwynhau diwrnod amrywiol a difyr. Mae croeso cynnes iawn i bawb o bob oed, ac fe fydd cyfieithu ar y pryd hefyd. £10 yw'r tâl, ond £5 i fyfyrwyr.

0 Comments:

Post a Comment

Links to this post:

Create a Link

<< Home