O'r Parsel Canol

Tuesday 24 April 2012

Gair newydd i mi gan y BBC

 Y BBC heddiw ar ddatblygiadau Prifysgol Bangor: 
Confucius oedd y meddyliwr, yr addysgwr a'r athronydd enwocaf yn yr hen China. Ystyrir ei ddamcaniaeth o "Zhong (Teyrngarwch)", "Shu (Goddefgarwch)" a "Zhong Yong (Y Canol Euraid)" yn hanfod diwylliant Chineaiddieineaidd ac mae wedi cael dylanwad pellgyrhaeddol ar ddatblygiad traddodiadau Chineaiddieineaidd

Gair yr wythnos: temprus

Clywais y gair hwn heddiw yn yr oedfa gan un a oedd wedi'i fagu ym Mhen Llyn. Fe'i defnyddiodd wrth gyfeirio at Bedr, y disgybl 'oriog, temprus'. Nid wyf wedi clywed y gair  (sy'n dod o temp(e)r + us, GPC) yn cael ei ddefnyddio fel hyn o'r blaen, ar gyfer rhywun sy'n dueddol o fod yn wyllt, yn colli ei limpin — ond wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr. Byddwn innau'n ei ddefnyddio, er enghraifft, wrth sôn am ddilledyn sy'n demprus, 'aired', a'r cwpwrdd tempru 'airing cupboard', ond ddim fel arall. Rown i'n hapus iawn i glywed yr un siaradwr yn dweud mwn ar ddiwedd brawddeg hefyd. 

Sunday 22 April 2012

A. Lloyd James, School of Oriental Studies

 Bûm yn pori heno mewn llyfryn a oedd gan fy nhad,  gwaith wedi'i gyhoeddi yn 1934 gan y BBC. Rhan o gyfres Broadcast English ydyw (rhif IV), sef Recommendations to Announcers regarding the Pronunciation of Some Welsh Place-Names, gan A. Lloyd James, 'University Professor of Phonetics at the School of Oriental Studies in London', gwr a fagwyd ym Morgannwg a Sir Gâr. Dyn a hanner, a barnu wrth y ffilm fer hon a wnaed yn y 1940au. Er gwaethaf ei siomedigaethau cynnar (gradd trydydd dosbarth mewn Ffrangeg yng Nghaerdydd), fe aeth o nerth i nerth wedyn ac arloesi ym maes ffoneteg yn arbennig — Ffrangeg, Profensal, a llu o ieithoedd Affrica a'r Dwyrain. 


Ond diwedd trist iawn a ddaeth, fel y dywed yr Oxford Dictionary of National Biography: 'On 11 August 1914 Lloyd James had married Elsie Winifred (1888/9–1941), daughter of Luther Owen, a professional musician, of Llanelli. She was a fellow of the Royal Academy of Music and well known as a violinist. Their only child, David Owen Lloyd James, joined the staff of the BBC. The marriage was a particularly happy one until during the stress and anxieties of war Lloyd James fell a victim to depressive insanity. Fearing separation from, and hardship to, his wife, he took her life in 1941 and his own, in Broadmoor Criminal Lunatic Asylum, Crawthorne, Berkshire, on 24 March 1943. He had been a man of much sociability and highmindedness, with a passion for punctuality and a scrupulous regard for truth.'


Ond dyma flas ar waith yr awdur eofn yn siarad yn ôl yn 1934 cyn i droeon yr yrfa ei oddiweddyd : 'The mountain strongholds fell; but the place-names inflict ignominious defeat upon the Saxon even to this day'.  'In the days when news was an affair of the printed page, the strangeness of Welsh place-names was little more than a harmless joke, enjoyed by Welshmen and Englishmen alike. They were read in silence and no harm was done. It was not necessary to be able to pronounce Welsh in order to read that matters of importance were happening at Criccieth [sic], or that a champion town-crier had come out of Penrhiwceiber. So long as the Englishman was content  to read these names in silence, all was well'. 


Ond at y gwaith mewn llaw:  'a BBC announcer is in a very different case. He, alas, must pronounce them. . . .  he cannot read his news-bulletin or his S.O.S. message in silence, much as he would like to . . . . .. With French, German, Italian, Spanish, even Hindustani perhaps, he may at some period of his life have had a nodding acquaintance. Welsh is, as a rule, completely unknown to him, and when a racehorse named Llanrwst does things on the turf that call for public mention, an announcer's brow may well be sad . . . . even Przemsyl, with its e, is more in harmony with the general lay-out of European orthographies than Ynysybwl, which has none of the customary five vowel letters of the Roman alphabet'. 


Mae'n treulio hanner tudalen ar y posibiliadau ar gyfer Llanelli gyda'r 'voiceless lateral fricative consonant' (sef yr -ll-). 'If the stranger will place his tongue as though he were going to make an ordinary English l and then blow hard, the walls of this particular Jericho will crumble before the blast'. Mae'n trafod holl fater dweud enwau lleoedd Cymraeg yn Saesneg (Llai/Llay; Cydweli/Kidwelly, etc.). 'An English announcer, who while reading a news-bulletin in English, pronounced Aberdare as [aber'da:r] would be laughed at in Aberdare, and throughout the Principality'. Mae'n diolch i lu o bobl, gan nodi, 'I should like also to acknowledge the help I have received from the schoolmasters and stationmasters who provided the pronunciations of the few names that were unknown to any of us'. Loving the Swónzy, Lámfy, Gwín-kă-gúrwenRewábbon, a Reedamooin y mae'n eu rhoi ochr yn ochr â'r ffurfiau IPA (Gwyddor Ffonetig). 


O.N. Yn gweld fod AbeBooks yn gofyn £175.00 am un arall o'r gyfres hon  gan y brawd A. Lloyd James.  

Friday 20 April 2012

Clipiau papur

Cefais rywbeth anhygoel heddiw, sef clip papur ar ffurf ci — dachshund, neu o bosibl, pug tenau iawn. Gan bwy — wel Mihangel Morgan, pwy arall? Mae'n bosibl prynu rhai ar ffurf asgwrn, a rhai ar ffurf  cwn gwahanol.  Fel y dywed un o'r cwmnïau yn Tsieina sy'n gwerthu'r rhain, 'the lively and vivid styles will take the place of the tedious ones from the normal clips. It is becoming more and more prevalent and applicable, which will make this item have a promising prospect'. Ie wir.

Sunday 15 April 2012

Pwllpeiran: pethau wedi symud yn gyflym

Mwy eto o'r fferm fynydd hon wedi mynd dan y morthwyl:

Farm Sale including 1000 units of Entitlements, will be held at Pwllpeiran, Cwmystwyth, Aberystwyth SY23 4AB on Saturday 10th March Machinery @ Noon followed by workshop Office Equipment @ 1pm Entitlements @ 1pm Viewing Friday 4 - 6pm - Sat from 9am. Full list available at www.aledellis.com Tel: 01970 62 61 60. Clywais sôn gan ffarmwr o ochrau Pencraig ar y gororau fod llwythi o fapiau, lluniau, a dogfennau yno; gobeithio nad oes dim byd o werth hanesyddol wedi cael ei waredu. Mae'n bechod nad oedd Elin Jones — er pob ymdrech — wedi gallu gwneud rhywbeth i sicrhau dyfodol y lle.

Friday 6 April 2012

Gair yr wythnos: adborth

Neu'n hytrach atborth, fel y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn awgrymu y dylem sillafu'r gair. A Geiriadur yr Academi hefyd o ran hynny. Gair newydd yw hwn a ymddangosodd gyntaf yn 1965. Ble y byddem hebddo, tybed? Beth oedd pobl yn dweud slawer dydd? Cael barn rhywun ar rywbeth? Cael ymateb rhywun? Cael clywed rhywun arall yn rhoi cyngor inni ar ein cynnydd? Neu beth? Ond at sillafu'r GPC: mae pawb rwy'n nabod yn defnyddio'r ffurf adborth, nid atborth. Gwglbrofwyd hyn gyda 539,000 o blaid, ac 119,00 yn cynnig imi At Birth (Separated, Average weight, etc.) neu At Borth (Animalarium) a phob math o sothach felly. So go with the flow fel Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor (nid Prifysgol Cymru), GIG, CBAC, a phob duffer arall? O ddifrif, a oes eisiau esgus bod y gair hwn wedi'i ffurfio adeg *ate + p- yn troi'n adeb- wedyn yn atb? Yn 1965! No way, hyd yn oed ar ddelw geiriau eraill.

Gair diddorol arall wrth bori yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant yw atarw, neu ad-darw a ddiffinir (?) fel 'Tarw llawndwf wedi ei (hanner) ysbaddu, bwla, adfwl'. Hanner ysbaddu? Bydd rhaid imi holi yn y Parsel am wybodaeth ar y pen hwnnw. Ac ni wyddwn mai '(natural) satellite' oedd ystyr atblaned, neu fel y dywed GPC 'lleuad osgordd'. Da 'nte?

Wednesday 4 April 2012

Wyau Pasg Pwylaidd


Polish Easter Eggs, originally uploaded by abaransk.

Pwyl a'r Parsel

Nid awdur o'r Parsel yn hollol, ond mae Niall Griffiths yn ddigon agos ym Mhenrhyn-coch i'w gyfrif. Llyfr newydd ar ei waith newydd ymddangos, gan Aleksander Bednarski, Inherent Myth: Wales in Niall Griffith's Fiction, wedi'i gyhoeddi gan KUL (Prifysgol Gatholig John Paul II yn Lublin, Gwlad Pwyl). Yn yr Adran Geltaidd yno y mae Dr Bednarski'n gweithio, yn darlithio ar y Gymraeg a'i diwylliant.


Mae siop newydd agor yn Eastgate yn Aberystwyth, yn gwerthu pob math o fwydydd, losin, ac yn y blaen o wlad Pwyl. Byrhoedlog iawn fu'r siop flaenorol — honno'n gwerthu edau, gwlân, tecstiliau, etc. Dyma'r unig siop yn y dref a oedd yn gwerthu patrymau gwnïo. Colled ar ei hôl felly. OND erbyn imi fynd lan i Stryd y Farchnad, gwelais y siop decstiliau ar ei newydd wedd ac roedd y patrymau yno hefyd (McCalls yn unig). Ceir hyd i'r siop y drws nesaf ond un i fan ymgynnull melyn y seiri rhyddion lle gwelir Masonic Hall ar wal eu goruwchystafell. Nid wyf o blaid y frawdoliaeth honno o ran egwyddor, ond mae eu hospis, Ty Hafan, i'w ganmol.