O'r Parsel Canol

Saturday 26 June 2010

Conffeti (Confetti) - Llys-wen, Brycheiniog

Llun ffab gan gyfaill a chydweithiwr imi sydd â llygad da am lun anarferol.

Crannog 'newydd' Llyn Syfaddan


Llangorse Lake, originally uploaded by Ben909.

Roedd neithior yn cael ei chynnal heddiw wrth yr adeilad cymharol newydd hwn ar lan Llyn Syfaddan. Codwyd hwn er mwyn rhoi syniad o'r math o ynys artiffisial (sef crannog) a oedd yma yn y llyn yn yr Oesoedd Canol Cynnar: darganfwuyd darnau o decstiliau o'r 9fed ganrif yma, a gwaith coed o ansawdd uchel sy'n awgrymu fod y lle yn go bwysig, efallai yn llys brenhinol.

Cathedine

Y ffurfiau cynnar o'r enw hwn (ger Llan-gors) yw Kethedin 1143-54, Kethedyn 1331, Llanfihangel Kethedin ac mae'n cael ei ddehongli gan Hywel Wyn Owen, Dictionary, fel 'cats' fort' (cathau + din), neu efallai ffurfiant gydag enw personol yma, Cathed neu Cethed. Mae'n agos iawn i eglwys arall a welir o'r llyn, sef Llangasty Tal-y-llyn.

Citric acid o Fferyllfa'r Co-op

Yn fwyfwy anodd i gael gafael ar citric acid o siop fferyllydd: nid yw ar gael bellach yn Boots, Lloyd's, etc. ond cefais hyd i botiau bach ohono yn Maeth y Meysydd yn Aberystwyth yr wythnos diwethaf. Ac mae siopau fferyllydd y Co-op yn ei werthu, ac yn gallu archebu peth os byddant wedi gwerthu allan. Mae fferyllfa Co-op ar gael yn Aberystwyth erbyn hyn, lle roedd Peter Caul slawer dydd, bron gyferbyn â Smith's. Mae'n debyg bod llawer o bobl fel fi yn gwneud cordial ysgaw gyda citric acid yr amser yma o'r flwyddyn. Mae cyffurgwn a therfysgwyr yn ei ddefnyddio at ddibenion llai cymeradwy a dyna'r rheswm pam nad yw ar gael yn y siopau mawr. Heddiw roedd gan Co-op Aberhonddu gynnig da iawn ar fefus o Brydain: prynais ddigon i wneud pedwar pwys o jam ar ôl dychwelyd o ddiwrnod bendigedig yn hwylio ar Lyn Syfaddan (Llan-gors).

Monday 21 June 2010

Bethesda Llanwrtyd

Lle y priodwyd fy mam a'm tad, a lle y bydd Cwmni Troed-y-rhiw yn perfformio eu cynhyrchiad am Epynt, sef Diwedd y Byd

ger Llanwrtyd

Diwedd y Byd Yma: Epynt Act III

Cefais y canlynol gan Gwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw sydd wrthi'n paratoi act nesaf eu rhaglen o gofio am gymdogaeth Epynt a gollwyd ac a anghofiwyd.
 
Ddechrau mis Mawrth, bu i ddau o sgriptwyr y cwmni gynorthwyo Ffermwyr Ifainc Sir Frycheiniog i lwyfannu GOLAU’R EPYNT - hanes y troi allan. Dyma’r tro cyntaf i ffermwyr ifainc y sir gystadlu’n genedlaethol yn y Gymraeg.
 
Yn ystod mis Mai, bu’r cwmni yn ffilmio’r actor Ryland Teifi yn adrodd cerdd goffa i un o’r 220 a ddiwreiddiwyd ar Fynydd Epynt. Gweddarlledwyd y ffilm 4 munud ar safle YouTube. (gwglwch TOMOS MORGAN, EPYNT)
 
Y drydedd act (y drydedd weithred) fydd taith DIWEDD Y BYD – digwyddiad theatrig a berfformir mewn capeli yn unig. ‘Capel y Babell oedd unig fan cyfarfod ffurfiol cymdogaeth y mynydd’, medd Euros Lewis, cyfarwyddwr y gwaith. ‘Trwy wahodd cynulleidfaoedd i grynhoi mewn capeli ry’ ni’n eu gwahodd i geisio ailgamu gyda ni dros drothwy y gymdeithas a gollwyd. Pobl yn dod at ei gilydd yw ystyr y gair ‘eglwys’. Yn y Babell y deuai pobl yr Epynt at ei gilydd. Dyma fan briodol felly i ni geisio ddod ynghyd i gofio amdanynt’, meddai.
 
Wrth geisio disgrifio DIWEDD Y BYD dywed nad drama mohoni. ‘Er fod y digwyddiad yn ddibynnol ar gwmni o chwaraewyr, nid actorion mohonynt. Nid ‘actio’ neu ‘esgus bod’ yw eu tasg. Y gair agosaf at ddisgrifio uchelgais eu gwaith yw cydymdeimlo. Yn wir y mae’r act o gydymdeimlo yn ein cysylltu’n uniongyrchol – yn chwaraewyr ac yn gynulleidfa - â’r diwylliant a ddiddymwyd pan ysbeiliwyd y gymdogaeth hon. Yn y theatr Gymreig, dyna’n cyfrifoldeb’, medd Euros.
 
DIWEDD Y BYD – CWMNI CYDWEITHREDOL TROEDYRHIW – AR DAITH: MEHEFIN-GORFFENNAF, 2010.
 
Manylion pellach: Euros Lewis – 01570 471328 – 07813 173155
 
TAITH DIWEDD Y BYD:
Nos Sul, 27 Mehefin (6.30)  – Capel Seion, Cwm Wysg, Sir Frycheiniog
Nos Sul, 4 Gorffennaf (7.30) – Capel y Groes, Llanwnnen, Ceredigion
Nos Wener, 9 Gorffennaf (7.30) – Capel Crannog, Llangrannog, Ceredigion
Nos Sul, 11 Gorffennaf (7.30) – Capel Bethesda, Llanwrtyd, Sir Frycheiniog
Nos Fawrth, 13 Gorffennaf (8.00) – Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Gwynedd
Nos Fercher, 14 Gorffennaf (7.30) – Capel Siloam, Cwmystwyth, Ceredigion
Nos Iau, 15 Gorffennaf (8.00) – Capel Trelech, Sir Gaerfyrddin
Nos Fercher, 28 Gorffennaf (7.30) – Capel Seion, Crymych, Sir Benfro
 
Pob tocyn: £4.00
 
,

Saturday 19 June 2010

S.S. Orford


Orford Postcard, originally uploaded by Neil Ennis.

Llong yr oedd Ieuan Gwynedd Jones arni pan oedd yn ddyn ifanc.

Dathlu Ieuan Gwynedd Jones yn 90 oed

Cymdeithas Hanes Llafur a Chymdeithas Hanes Ceredigion yn dod ynghyd yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw i ddathlu pen blwydd yr Athro Ieuan Gwynedd Jones yn 90 oed (wel, ar 7 Gorffennaf y mae'r pen blwydd go-iawn). Dros 90 o bobl yno gan gynnwys llawer o gyn-fyfyrwyr ymchwil a ffrindiau — Angela John, Neil Evans, Chris Turner, Geraint H. Jenkins, Ryland Wallace, Paul O Leary, Russell Davies, Siân Rhiannon Williams, ac eraill. Rhaglen lawn o ddarlithoedd tan gamp, a theyrnged gofiadwy gan Geraint H. Jenkins a oedd wedi cael gafael ar lawer o luniau'r teulu — rhai o Ieuan pan oedd ar y môr (yn y llong yn y llun uchod), yna yn fyfyriwr aeddfed yn Abertawe, yn ddarlithydd ifanc, a lluniau hyfryd ohono ef a Maisie, gyda gweddill staff Adran Hanes Abertawe, ac wrth ei ddesg yn Neuadd Wen, yn y 'Cwm-twrch Historical Institute'! Diwrnod bendigedig a'r gwrthrych yn edrych yn hapus ac yn falch.

Tuesday 15 June 2010

Ted Hughes a Daniel Huws

Daniel Huws, y bardd a'r ysgolhaig, ac un o awduron gorau ein hardal ni, newydd gyhoeddi rhagor o atgofion am ei gyfaill, Ted Hughes, o'r cyfnod 1952-63. Roedd erthygl yn Barddas rai blynyddoedd yn ôl. Llyfr darllenadwy a diymhongar, un rhesymol iawn ei bris ac ystyried safon y diwyg (a gynlluniwyd gan Richard Hollis, gwr Posy Simmonds), a'r ysgrifennu.

Saturday 12 June 2010

Glas a gwyrdd

Nid nepell o'r Parsel mae man ailgylchu o fath arbennig — nid poteli cyffredin (brown, gwyrdd neu dryloyw) ond poteli glas dwr Ty Nant yn unig. Sgwn i pwy sy'n mynd â nhw i ffwrdd, ac i ble?

Friday 11 June 2010

Grammatica Celtica

Rwy'n gobeithio y bydd yr ysgolhaig disglair sydd newydd ei benodi yn Brifathro Bangor yn gallu dysgu Cymraeg yn ddigon handi. Mae cefndir yr Athro John G. Hughes (yn enwedig ei addysg ym Melffast gyda'r Christian Brothers) a'i hanes ym Maynooth yn argoeli'n dda. Efallai'n wir y bydd ymhen hir a hwyr yn medru'r Gymraeg cystal â Bwrdd yr Iaith! A dyfynnu o wefan y Bwrdd: Mae’r Cadeirydd Meri Huws wedi ei ailphenodi yn ogystal â saith aelod o’r Bwrdd. Ie, ailphenodi!

Campervan that got away

Mae'n dda clywed fod cystadleuaeth fawr Dorset Cereals i ennill Campervan VW wedi'i hennill gan wr o Aberystwyth, sef Kevin Skyrme, 'saer maen sy'n hoffi teithio o gwmpas y wlad gyda'i gi'. So it's gone to a very good home, meddan nhw. Hyn yn sicr yn dda i ddelwedd y cwmni hwn sydd am gael ei gysylltu â 'r cefn-gwlad neu'r lan-môr bwced-a-rhaw draddodiadol a pharadwysaidd (Cernyw neu Ddyfnaint o gael y dewis), crefftau'r artisan, gwyrddni, a phob peth daionus a rhinweddol. Beth petai'r VW wedi cael ei ennill gan . . . . wel, rhywun fel fi?

Thursday 3 June 2010

Diolch am synnwyr

Tri pheth calonogol heddiw: 1. Bydd pobl yn gorfod talu saith ceiniog am fag plastig ar gyfer eu negeson. 2. Prif Feddyg Cymru yn dweud yn gwbl eglur na ddylai plant a phobl ifainc dan 15 gyffwrdd ag alcohol, hyd yn oed yn y cartref am fod alcohol yn gallu bod yn andwyol i ddatblygiad corff ac ymennydd pobl ifainc. Anffasiynol, deddfol? Efallai. Call? Yn bendant.3. Dau o fyfyrwyr ymchwil yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth, Gruffudd Eifion Owen a Dewi Huw Owen, wedi dod yn gydradd drydydd am y Gadair yn Steddfod yr Urdd. Llongyfarchiadau i Llyr Gwyn Lewis a enillodd y Gadair, a Gruffudd Antur am ddod yn ail.