O'r Parsel Canol

Sunday 7 August 2011

Y Parsel a'r Steddfod

Sawl un yn arddel Daniel Davies, Maesmeurig — Prifysgol Aberystwyth (sydd hefyd ar eu gwefan yn hawlio Manon Rhys a raddiodd yn y Gymraeg yno), y Cambrian News, a hyd yn oed (drwy dad Daniel) yr Heddlu. Wel mae'r Parsel yn falch iawn o'i gamp, ac yn edrych mlaen at ddarllen Tair Rheol Anhrefn, gyda'r gair bach anodd hwnnw yn y teitl sy'n boendod i bawb. Mae'r Archdderwydd, T. James Jones, yn un ohonon ni hefyd megis o hirbell — drwy Llinos (chwaer Tegwyn Rhos-goch). Ac mae hyd yn oed y Rapsgaliwn â'i wreiddiau'n ddwfn yn y cwm — ei fam o Gellinebwen. Rhywbeth yn yr aer siwr o fod. Yn Iwerddon (Maynooth, Tara, Emain Macha, Newry, Carlingford Loch, etc.) y bu'n rhaid i minnau fod eleni, nid yn y Steddfod. A dim ond heddiw rwy'n dal lan â'r digwyddiadau i gyd.