‘Y Ddraig’ newydd ar fin hedfan
Cylchgrawn newydd, ie, mewn ffordd ond erbyn 1878 roedd cylchgrawn Cymraeg o'r enw Y Ddraig yn bodoli'n barod yn Aberystwyth, ac mae cenedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg wedi bod yn cyhoeddi ynddo dros y blynyddoedd. Ar ôl cyfnod tawel, dyma'r Ddraig yn aildanio, diolch i egni a brwdfrydedd criw o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n astudio modiwl Cymraeg Proffesiynol. Nhw sydd wedi comisiynu, golygu, dylunio, a threfnu cyhoeddi'r cylchgrawn — gyda 117 o dudalennau, mae'n fargen am £5. Os ydych am gael copi drwy'r post, anfonwch at cymraeg@aber.ac.uk.
Yn y rhifyn y mae cyfweliad â Gruffudd Antur, bardd y Gadair yn Steddfod yr Urdd 2012, ynghyd â cherdd newydd ganddo, a cherdd yn ei gyfarch gan y Prifardd Huw Meirion Edwards. Mae cyfweliadau â phobl ddifyr eraill — gan gynnwys Meredydd Evans, Mihangel Morgan, Catrin Haf Jones, y Parchedig Brifardd John Gwilym Jones, Bethan Gwanas, Palas Print, Cardia Cofi, Elliw Pritchard, ynghyd â llu o gerddi a straeon newydd — gan Saran Lynch, Jacob Ellis, Adam Jones, Megan Lewis, Teleri Haf Jones, Gwenno Edwards, Jacob Garner ac eraill.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home