O'r Parsel Canol

Sunday 31 January 2010

Wolfy's New Kit


Wolfy's New Kit, originally uploaded by Trojan_Llama.

Dydd Iau oedd y tro cyntaf imi weld ci yn gwisgo panniers (fel yn y llun). Yn Aberystwyth, y tu allan i Boots, roedd menyw yn ei chwedegau yn delio'n ddeheuig iawn รข'i ches (ar olwynion), tra oedd ei chi defaid brown a du yn arwain y ffordd yn ei banniers coch. Roedd y stryd gyfan yn syllu arnynt.

Thursday 14 January 2010

Dillad babi; 'retro car coat' o batrwm Sublime


dillad babi/retro car coat, originally uploaded by Gwenddolen.

Llafur cariad caled dros ben i wneud cot fach retro (lliw uwd) ar gyfer Toby, un o'r cefnderwyr bach. Mae Cynthia, perchennog siop edau Clare's yn Aberystwyth (www.clarewools.co.uk)yn byw yn y Parsel, ac mae hi'n adnabyddus fel un hael iawn ei chymwynas pan fydd y gwau wedi mynd yn drech na dyn. 'Wrth fysgu y mae dysgu,' meddai'r hen air am dreialon y grefft astrus hon. Cymaint yn haws yw gweld rhywun deheuig fel Cynthia yn dangos sut yn union y mae troi hosan, neu godi pwythau.

Tuesday 5 January 2010

Scimitar bunny


Scimitar bunny, originally uploaded by Gwenddolen.

martial bunny


martial bunny, originally uploaded by Gwenddolen.