O'r Parsel Canol

Sunday 8 December 2013

Hen Goleg yn y galon

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Rhisiart Hincks yn cofnodi adeiladau hanesyddol Cymru, a llefydd o ddiddordeb llenyddol hefyd.  A'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gorfodi i symud i adeilad Hugh Owen ar y campws gan adael yr Hen Goleg ger y lli, dyma albwm o luniau sy'n dangos y trysor a gollwyd drwy orfodi'r newid hwn. Ceir yma hefyd gwpledi trawiadol i gyd-fynd รข'r lluniau. Mae'r cyn-fyfyriwr Llion Jones a wnaeth ei BA a'i PhD yn yr Adran wedi mynegi'r golled yn well na neb: 
Yr oedd adwy breuddwydion yno i ni 
      a nawdd i obeithion; 
  hen goleg yn y galon, 
  hen gariad oes ger y don.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home