O'r Parsel Canol

Friday 22 July 2011

Tua Banc y Darren


PB220019, originally uploaded by penbontrhydybeddau.

Ymryson Cwn Defaid Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf

Paratoadau yn y Parsel ar gyfer Ymryson Cwn Defaid yfory ym Manc y Darren. Hywel Lewis, Erwyd Howells a phawb wrthi fel slecs yn paratoi gyda traffig diogel lan a lawr Cwm Main. Wn i ddim pryd maen nhw'n cychwyn. Pan oeddwn yn fwy selog gyda'r pethau hyn, yn ôl yn fy hen gynefin slawer dydd, doedd dim diben cyrraedd yn rhy gynnar. Yn cofio troi lan ryw brynhawn cysglyd a bron neb yno — 'it's waiting dogs we are'. Ar y thema hon, byddaf yn blogio'n fuan am sut y daeth pedair gast Mihangel Morgan i aros gyda ni, a sut y daethpwyd i ben.

Thursday 21 July 2011

erwau Capel Dewi


Capel Dewi fields, originally uploaded by Rory Prior.

Aled Llyr Thomas ar y brig

Mae Aled Llyr Thomas, Brynheulog, Capel Madog, wedi cipio Gwobr Goffa Brynie Williams yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae Aled yn prysur wneud enw iddo'i hun nid yn unig fel areithiwr ac actor, ond fel bridiwr defaid, ac mae wedi elwa drwy fod yn rhan o gynllun cymorth YESS (Young Entrants Support Scheme) i newydd-ddyfodiaid dan 40.

Monday 18 July 2011

Rathaus Stralsund


Rathaus Stralsund, originally uploaded by eckiblue.

Drang Nach Osten

Bu'n freuddwyd gennyf erioed ymweld â'r Ostsee neu'r Baltig, ond mae'r plant yn ei gwireddu ar hyn o bryd drwy ymweld â hen drefi'r Hansa, sef Wismar, Schwerin, a Stralsund (etholaeth Angela Merkel). Rwy'n licio swn enwau fel Mecklenburg-Vorpommern, ac yn leicio golwg yr adeiladau Backsteingothik yn y trefi o gwmpas môr y Baltig. Gobeithio y byddaf innau'n cael mynd yno rywbryd.

tua Cwmerfyn


PC060002, originally uploaded by penbontrhydybeddau.

Cadair yn Aber i Gideon Koppel

Da clywed fod Gideon Koppel, mab Heinz (gynt) a Pip Koppel o Lety Caws, Cwmerfyn, wedi cael ei benodi i Gadair Ffilm Ddogfen ym Mhrifysgol Aberystwyth. Treuliodd yr artist Clive Hicks-Jenkins rai misoedd yn Llety Caws gwpl o flynyddoedd yn ôl, ac mae rhai o'i weithiau o'r cyfnod hwnnw'n cael eu dangos ar hyn o bryd yn yr arddangosfa ryfeddol sydd mlaen yn y Llyfrgell Genedlaethol. Pobl y Parsel yn drist o golli Terry Couling o bentref Pontrhydybeddau, un o'r bobl leol sydd i'w gweld yn ffilm enwog Koppel, Sleep Furiously.

Thursday 7 July 2011

Prom

Ar ben y Byd

Noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn gwireddu darogan Y Parsel wrth gyhoeddi mai Bydoedd Ned Thomas, Cyfarwyddwr Mercator, Prifysgol Aberystwyth, sy'n ennill y Brif Wobr. Y tri beirniad, Simon Brooks, Kate Crockett, a Gerwyn Williams yn gyn-fyfyrwyr yn yr Adran Gymraeg yn y Coleg ger y Lli. Tyler Keevil sydd wedi ennill Gwobr Barn y Bobl ar yr ochr Saesneg: mae e'n astudio ar gyfer PhD yn Adran Saesneg Prifysgol Aber, ac yn byw yn yr ardal ers rhai blynyddoedd. Gwasg y Lolfa sydd wedi cyhoeddi'r tri llyfr ar y rhestr fer. Tystiolaeth groyw yw hyn i gyd i'r holl egni, ffresni ac ymroddiad creadigol sydd yng Ngheredigion.

Tuesday 5 July 2011

Yr Athro Bobi Jones


Yr Athro Bobi Jones, originally uploaded by Dogfael.

Rhywbeth gwerth ei gael gan Bobi Jones

Bu Bobi Jones aka'r Athro R.M. Jones wastad o flaen ei amser, ac nid yw'n syndod nawr ei fod wedi creu gwefan er mwyn i bobl fynd at ei waith yn rhwydd, ac yn rhad ac am ddim. Dyma adnodd sydd yn mynd i fod o ddiddordeb arbennig i gyfeillion yr iaith, i'r diwinyddion, ac i'r llengarwyr. Mae'r ddolen yn gweithio erbyn hyn.