O'r Parsel Canol

Wednesday 30 May 2012

Gair yr wythnos: ffetan

I Ystrad-fflur yr wythnos diwethaf, i achlysur a drefnwyd gan CADW a CAWCS — gyda chyfraniadau gwych am y fynachlog a'i beirdd a'i chopïwyr gan Dafydd Johnston ac Ann Parry Owen. Yno hefyd roedd Eurig Salisbury yn egluro hanfodion y gynghanedd (yn Saesneg a'r Gymraeg) — mor glir ac mor effeithiol nes bod pobl yn cynganeddu yn eu ceir yr holl ffordd adref (dyna a glywais gan Kate, Jim, Moa a  Kit o Aberystwyth, beth bynnag). Seren y sioe, fel arfer, oedd Gwyneth Lewis yn darllen dwy gerdd wedi'u comisiynu gan CADW. Bydd y rhain yn cael eu gosod ar wal o lechi ar y safle ei hun. Roedd Ieuan Rees i fod yno, yn arwain gweithdy ar galigraffi, ond ni ddaeth — clywais sibrydion ei fod yn gweithio ar ryw ysgrifen i ddathlu'r Jiwbil.
        At y gair dan sylw: yn Ystrad-fflur roedd bubblingstoves.com yn gweini prydau bwyd canoloesol,  pasteiod a llymru etc. wedi'u lapio'n ofalus mewn darnau o hessian. Darn o ffetan ys dywedwn i. Ac roeddwn yn hapus iawn i weld y gair hwnnw yn un o ddiarhebion Llyfr Coch Hergest, G6ell yr g6r a aeth a'r uanec yytta noc a'r ffetan, h.y. pan wyt ti allan yn begera am ydrawn, gwell iti estyn maneg i'w llenwi yn hytrach na disgwyl cael llond sach neu ffetan. Rwy'n gwybod fod y gair yn arferedig ym Morgannwg, sir Gâr, a sir Frycheiniog. Ydy'n air byw yn y gogledd o gwbl plis? A beth yw ei berthynas â'r Wyddeleg fetan 'cwd, sach' tybed? 

Siop Lyfrau Glyn Adda

Dywedodd cyfaill imi fod Dafydd Glyn Jones yn gwerthu llyfrau drwy flog a grewyd yn unswydd i hysbysebu eitemau megis Camu'n Ôl (o wasg Dalen Newydd y mae ei logo yn dwyn i gof logo Dorling Kindersley). Ceir un neu ddwy o storïau'r gyfrol yn damaid i aros pryd, a chynigion blasus eraill: pwy a allai wrthsefyll 'Pecyn Llandygái', 'am y pris manteisiol o £20 (yn lle £27.50)'? Mae gwefan Bobi Jones yn fwy o bopeth i bawb o bobl y byd  — y cyfan (ac mae llond gwlad/byd ohono) am ddim.


Diweddariad: mae'r rhagddywededig Lyn Adda yn fy sicrhau nad 'mewn trade' y mae fel y cyfryw — namyn hysbysebu y mae yn ei courant. Dywedaf i fod angen i'r Hen Lyn greu cyfrif PayPal (sef Cyfaill y Gwerthwr) a phrynu clorian (arall) ac amlenni pwrpasol o Staples. Os oes Mrs Glyn ar gael  — ac fe allai fod, cofiwch! — gallai hi ymorol am y pacio. 

Monday 7 May 2012

Gadewn ni yn y fanna hi

Cawsom wybod ddoe (Dydd Sul) am farwolaeth Yr Athro Dafydd Jenkins. Roedd wedi cael ei ben blwyddd yn 101 ar Fawrth 1af eleni. Tan yn ddiweddar, roedd yn ifanc ei ysbryd a'i ffordd, ac yn aml iawn byddai rhywun yn ei weld yn ei got lwyd Sgandinafaidd yn sgipio yn groes i'r heol fawr ac i mewn i Ffordd y Gogledd. Gwr da, egwyddorol, unplyg. Anwesai iaith Ceredigion, gan ymhyfrydu yn y 'gadewn ni yn y fanna hi' bob tro y ffarweliai â ni — gyda'r rhagenw ar y diwedd fel yn yr Wyddeleg.