O'r Parsel Canol

Friday 1 June 2012

Michael Wood a'r Great British Story gynhwysol

Cris Dafis yn cwyno ar raglen Caryl a Daf heddiw nad oedd rhaglen hanes y bytholwyrdd Michael Wood wedi rhoi digon o sylw i'r bobloedd a oedd ym Mhrydain cyn y Rhufeiniaid, a rhwng y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Wel fe gawsom ein hawr fawr pan oedd Wood et al. lawr ar draeth Llangrannog yn crybwyll hen farddoniaeth y Cymry. Cafodd Idris Reynolds gyfle i unioni pethau, ac i roi sylw dyledus i'n traddodiad drwy ddarllen dyfyniad o Armes Prydain Fawr o'r ddegfed ganrif. Ond och a gwae — daeth marannedd mas fel maranned; hedd mas fel hed,  meuedd fel meued, etc. Cwbl ddisynnwyr i bawb oni bai am yr is-deitlau. 'And that's all in cynghanedd!', gwenodd Idris heb droi blewyn.

2 Comments:

Anonymous Rhys said...

Roedd un boi (Morris rhywbeth - prifardd?) yn honi bod y ieithoedd Celtaidd a'r Fasgeg yn perthyn. RO'n i o dan yr argraff nad oedd dim un iaith yn perthyn i'r Fasgeg. Gwneu i rhywun feddwl bod hanenr y pobl sy'n cyfrannu at raglnni fel hyn yn siarad ar eu cyfer.

3 June 2012 at 13:47  
Anonymous Anonymous said...

Does dim iaith arall yn perthyn i Fasgeg hyd y gwn i. Yn sicr, nid yr ieithoedd Celtaidd.

4 June 2012 at 09:30  

Post a Comment

<< Home