O'r Parsel Canol

Friday 30 July 2010

Y Mynydd Bach, Trefenter


Trefenter, originally uploaded by evans.photo.

Cof da am Lowri Gwilym addfwyn

Thursday 29 July 2010

Awyr las NEU pen yn y cymylau?

Pa ddiawlineb Sioni-bob-ochr sy'n gyrru Jon Gower i awgrymu mai 'blue sky thinking' fyddai cael Prif Weithredwr S4C nad yw'n medru'r Gymraeg?

Friday 23 July 2010

Heb fod yn bell


Nearly Sunset, originally uploaded by Mister__T.

Gair yr wythnos: marian

Rhywun o dramor yn holi ai eglwys wedi'i chysegru ar enw Mair Forwyn oedd Llanfarian. Minnau'n egluro nad oes eglwys yno fel y cyfryw, ac mai Eglwys Sant Llwchaearn yw'r un agosaf. Tybir bod llan efallai wedi datblygu o nant yn wreiddiol. Wedyn marian yn golygu 'graean', yn cyfeirio at y traethau graeanllyd a welir ar lan afon Ystwyth yno ar ddwy ochr y bont. Dechreuais feddwl wedyn am Marian-glas, Tanymarian, ac enwau eraill cyffelyb, a hyd yn oed am enw Marian Delyth y ffotograffydd o ardal Blaen-plwyf, ychydig i'r de. Does dim tarddiad wedi'i nodi yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond efallai fod modd ei gysylltu â'r gair Galeg marga a fenthycwyd i Ladin Diweddar marga 'marl'.

A sôn am Marian Delyth na chafodd ei siâr haeddiannol o'r clod am Lyfr y Flwyddyn eleni, mae gennyf gof fod Ted Breeze Jones (lluniau) a Gwyn Thomas (cerddi) wedi bod yn ddeuawd anwahanadwy adeg Llyfr y Flwyddyn 1994 pan oedd eu cyfrol Anifeiliaid y Maes Hefyd ar y rhestr fer o dri gyda Saith Pechod Marwol Mihangel Morgan. Ond Robin Chapman, ein Michael Holroyd ni'r Cymry, enillodd y jacpot y flwyddyn honno yng Ngwesty Sandringham yng Nghaerdydd. Cofiant W.J. Gruffydd. Cof anhygoel? Na, roedd eich bloggiste yn un o'r beirniaid y flwyddyn honno pan oedd y drefn yn bur wahanol, ac yn decach hefyd.

Llyfr nodiadau Burma

Hysbysebu hudolus o greadigol gan gwmni dillad Nigel Cabourn yn dwyn i gof hen albwms fy nhad o'r cyfnod pan oedd allan yn India yn ystod y rhyfel. Y shorts, y bag ('partly hand made by ladies in an old leatherworks tannery in Cumbria'!), y cwbl mor amhosib o wych a retro. A phetawn yn fachgen buaswn yn bendant yn mynd am y siwmper yma 'inspired by the jumper worn by Tom Bourdillon who was famously pictured wearing it inside-out. We made the piece inside-out to stay true to this image'. Bron cystal â chot ddyffl Kenneth More yn Sink the Bismarck.

Thursday 22 July 2010

Bach Double Violin Concerto a'r deisen

Y ddolen hon yn caniatáu i rywun sy'n canu'r fiola i chwarae rhan yr ail ffidil. Wedi mwynhau gwneud hynny heno ar ôl bwyta darnau anferth o deisen siocled foethus a ddyfeisiwyd gan Ottolenghi (o'r llyfr cyntaf). Y Biscotti Pistachio a Sinsir o'r un llyfr hefyd yn dda iawn. Ond Nige Slater yw'r cogydd mwyaf ysbrydoledig ac ymarferol: yr hen Kitchen Diaries a gefais gan fy mam yn ddiguro am syniadau tymhorol sbot-on.

Saturday 17 July 2010

Noson gydag Arthur


Noson gyda Arthur, originally uploaded by Gwenddolen.

Friday 16 July 2010

Graddio gydag UMCA

Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn torri'r traddodiad o gynnal defod UMCA yn y dref (yn y Morlan y bu y llynedd, a chyn hynny yng Nghapel y Morfa, a chyn hynny yn yr Hen Neuadd yn yr Hen Goleg). Gan fod y ddefod eleni ar ddiwrnod gwahanol i'r arfer, nid oedd ond cwpl o rieni a ffrindiau yno ym Mhantycelyn ar wahân i'r myfyrwyr a'r gŵr gwadd Eurig Salisbury a oedd wedi cyfansoddi cerdd wych at yr achlysur -- yn cyffelybu bywyd Cymraeg Aber i swigen neu cocoon, ac yn annog y graddedigion i ddal gafael yn eu delfrydau a'u sêl dros yr iaith. Sylwedd a steil hefyd.

Tuesday 13 July 2010

Brwydr Bryn Glas: yr arwydd newydd!

Brwydr Bryn Glas: yr arwydd o'r diwedd

Ar ôl llawer o straffig a gwaith perswadio caled gan Kirsty Williams, a'm hen ffrindiau ysgol Alan Jones a Geoff Lewis ac eraill, wele arwydd yn dangos safle Brwydr Bryn Glas yn 1402 ger Pilleth (Pylalai), Maesyfed. Handi i bobl sy'n cerdded ar hyd y llwybr cyfagos (Llwybr Glyndwr) neu sy'n digwydd bod yn pasio. Gwerth oedi ychydig ymhellach ymlaen ar yr heol honno i gael cip ar Mynachty, adeilad o'r 16g yn wreiddiol.

Monday 12 July 2010

Rhaglen Diwedd y Byd


Rhaglen Diwedd y Byd, originally uploaded by Gwenddolen.

Capel y Babell a Diwedd y Byd: noson Llanwrtyd

Noson wirioneddol dda yng Nghapel Bethesda Llanwrtyd neithiwr gyda Chwmni Troedyrhiw yn cyflwyno Diwedd y Byd. Roeddwn innau, a rhai o bobl y pentref, wedi bod yn poeni na fyddai neb yn troi lan: yn wir, awgrymodd f'wncwl y dylid cysylltu'n ddi-oed ag Euros Lewis i'w rybuddio. Ond yn y wir, roedd bron i hanner cant yno, ac roedd y cast yn niferus (dau grwp o wyth), felly roedd pawb yn falch fod yna gynulleidfa deilwng. Ymgynullwyd yn y festri i ddechrau ac yna ymlaen i'r capel ei hun i ail-fyw gwasanaeth yng Nghapel Y Babell, Epynt. Cyflewyd undod y gymdogaeth gan y cydweddio, a'r adrodd ar y Salmau a rhannau eraill o'r Ysgrythur, a hefyd gan feimio effeithiol yn dangos y dynion wrth y cnaif. Nid actorion proffesiynol oedd y dynion, ond roedden nhw'n edrych yn drawiadol o wledig (ac eithrio'r dillad parch a oedd dipyn yn yn rhy smart). Mae un o'u plith, Dr Roger Owen, yn fab ffarm ei hun ac yn darlithio yn yr Adran Ddrama yn y coleg yn Aberystwyth. Cwpl o bethau gwir ysgytwol: wrth i'r gynulleidfa ganu pedwar emyn, cawsom y wefr o'i morio hi a theimlo fod y capel dan ei sang. Roedd y codwr canu'n anghyffredin o dda. Ar ddiwedd pob emyn, chwaraewyd y pennill olaf nôl inni, ond nid yn yr emyn olaf pan aeth côr y cwmni ei hun allan gan adael y gweddill ffyddlon i straffaglio ymlaen hyd y diwedd. Yr ail beth oedd y defnydd o dapiau sain, gyda lleisiau Meredydd Evans, Ffred Ffransis, Angharad Tomos, a Dafydd Iwan, ond yna erbyn y diwedd, 'Land of Hope and Glory' a swn saethu yn chwyddo. Ysgytwad hefyd pan wasgarwyd taflenni o'r galeri yn hysbysu trigolion y 54 cartref fod rhaglen y Weinyddiaeth i feddiannu tir a daear a bywoliaeth 220 o eneidiau eisoes ar droed. Y gwacáu wedyn, a'r sgriniau cyfrifiadur ar y naill ochr a'r llall yn dangos caead yr arch yn cael ei hoelio'n dynn.

Roedd golwg sbriws iawn ar y pentref neithiwr: rhai o'r blodau yno yn sgil ymweliad cyfres S4C ar Y Porthmon. Da gweld Erwyd Howells, y Bugail o'r Parsel, yn cael rhan flaenllaw yn y sioe hon. Ac roedd rhai o'r blodau yn sgil ymweliad gan Charles Windsor a fu heibio i'r siop fwtsiwr a gedwid slawer dydd gan fy hen fodryb Bet (Cammarch Valley Butchers erbyn hyn). Deallais hefyd fod Capel Bethesda ei hun wedi trefnu cael paentio ei reilings ar gyfer yr ymweliad brenhinol. Byddaf innau'n dychwelyd yn fuan i'r pentref i gael cyflenwad o ddwr sylffyr sy'n dda at eczema ac anhwylderau eraill ar y croen.

Saturday 10 July 2010

Bara ceirch

Can cylch o fara ceirch

Wedi gwneud bara ceirch heno. Dechrau gyda cheirch uwd, eu malu'n weddol fân (ond nid fel blawd) mewn prosesydd bwyd, ychwanegu dwr poeth o'r tegell a thair llwyaid de o fenyn, ychydig o halen, a'r un faint o bicarbonate of soda. Ar gyfer Kg o geirch, defnyddiais hanner llwyaid o halen ac o bicarb. Cymysgu'r cwbl a'i dylino a'i rolio allan yn lled denau (chwarter modfedd, efallai) gan iwsio ychydig o flawd i gadw'r pin rolio a'r bwrdd rhag glynu. Torri allan y cylchoedd â thorrwr metel, a'u rhoi yn y ffwrn, 200C, am chwarter awr nes bod yr ochrau'n codi. Gadael i oeri cyn eu rhoi nhw i gadw. Maen nhw'n gallu cael eu rhewi hefyd. Dyma'r peth hawsaf a rhataf yn y byd, ac yn well o lawer na bara ceirch o'r siop. Mae gwneud yn agos i gant o'r cylchoedd hyn mewn dim o dro yn rhoi boddhad mawr i rywun. Coffa da am S. Minwel Tibbott (a fu farw yn 1998) a'i gwaith gwych yn Sain Ffagan yn hel cymaint o wybodaeth am fwyd a bywyd domestig y Cymry slawer dydd.

Claerwen


Elan valley - Claerwen reservoir, originally uploaded by Dave-F.

Gair yr wythnos: Elenydd neu ynteu Elenid

Lansiad llywddiannus iawn neithiwr yn Amgueddfa Ceredigion o lyfr newydd y ffotograffydd dawnus, Anthony Griffiths o Aberystwyth. Yno yn canu cerdd dant roedd Côr CYD dan arweiniad Brenda Williams gydag Eleri Turner y delynores. Yn eu plith gwelais Bríd Davies, Cynog a Llinos Dafis, Gwilym Tudur, Carwen Fychan, Ann-Marie Hinde, Helle Michelsen, Felicity Roberts, a Sue Jones-Davies. Mae'r llyfr dywieithog hwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn cynnwys lluniau gwych iawn o ucheldir canolbarth Cymru, o Bumlumon i lawr hyd at Gwm Elan, ac fe gyflwynwyd y noson yn ddeheuig gan Jen Llywelyn, golygydd gyda Gwasg Carreg Gwalch a dysgwraig sydd wedi meistroli'r Gymraeg yn eithriadol o dda.

Roedd cryn drafod ar deitl y gyfrol, sef Elenydd, ac i ba raddau y mae hyn yn cyfateb i'r term Saesneg, y 'Cambrian Mountains' bondigrybwyll. Roedd Liz Fleming-Williams yn llygad ei lle'n dweud mai o'r enw afon Elan y mae enw'r ardal yn tarddu. Mae'r afon honno'n codi yng Ngheredigion ac yn llifo drwy'r gweithfeydd dwr i lawr i ymuno ag afon Gwy ger Llanwrthwl, ryw ddwy filltir i'r de o Raeaedr Gwy. Ond y ffurf wreiddiol ar yr ardal oedd Elenid, meddai R.J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, 65-66, ac er bod ganddo restr o hen ffurfiau o'r 12g ymlaen, gyda rhai ohonynt yn gorffen yn -yth/ith, mae'r ffurfiau odledig yn y farddoniaeth yn cadarnhau mai Elenid oedd y ffurf safonol erstalwm yng ngolwg y beirdd canoloesol. Dyma'r enghreifftiau: gan Phylip Brydydd yn y 13g (CBT VI 14.42) Myn y rhed Rhediawl [afon Rheidol heddiw] o Elenid (yn odli ag anghyfrdelid); a chan Iorwerth Fychan, 13g Lle rhed olwynawr [ceffylau] o Elenid (yn odli ag ermid) (CBT VII 29.8). Mae testun y chwedl Math fab Mathonwy hefyd yn cadarnhau'r ffurf yn -id. Posibl iawn fod y ffurf yn -ydd wedi datblygu drwy gydweddiad â therfyniad enwau ardaloedd fel Maelienydd, Meirionydd, etc. Elenid Jones yw enw nith yr ysgolhaig mawr G.J.Williams, felly, nid Elenydd!

O ran yr union leoliad, mae Christine James yn nodi yn CBT VII, 317 mai 'y mynydd-dir a elwir heddiw yn Bumlumon' yw Elenid; ac felly Morfydd E. Owen, CBT VI, 206, ac Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi 259. Mae Gerallt Gymro yn nodi fod Hafren, Gwy, Tywi, Hafren, Ystwyth a Theifi yn tarddu yn Elenid, gan ddweud hefyd am yr enw Moruge (?gair hynod yn cyfeirio at gors). Mae pob math o wybodaeth am yr ardal brydferth hon ac am ei bywyd gwyllt a'i hanes yma