Crannog 'newydd' Llyn Syfaddan
Roedd neithior yn cael ei chynnal heddiw wrth yr adeilad cymharol newydd hwn ar lan Llyn Syfaddan. Codwyd hwn er mwyn rhoi syniad o'r math o ynys artiffisial (sef crannog) a oedd yma yn y llyn yn yr Oesoedd Canol Cynnar: darganfwuyd darnau o decstiliau o'r 9fed ganrif yma, a gwaith coed o ansawdd uchel sy'n awgrymu fod y lle yn go bwysig, efallai yn llys brenhinol.
2 Comments:
Mae hwnna'n lun bendigedig.
Nid fi a dynnodd hyn, ond rhywun llawer gwell. . . . mae jest cymaint o bethau gwych ar Flickr!
Post a Comment
<< Home