Diwedd y Byd Yma: Epynt Act III
Cefais y canlynol gan Gwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw sydd wrthi'n paratoi act nesaf eu rhaglen o gofio am gymdogaeth Epynt a gollwyd ac a anghofiwyd.
Ddechrau mis Mawrth, bu i ddau o sgriptwyr y cwmni gynorthwyo Ffermwyr Ifainc Sir Frycheiniog i lwyfannu GOLAU’R EPYNT - hanes y troi allan. Dyma’r tro cyntaf i ffermwyr ifainc y sir gystadlu’n genedlaethol yn y Gymraeg.
Yn ystod mis Mai, bu’r cwmni yn ffilmio’r actor Ryland Teifi yn adrodd cerdd goffa i un o’r 220 a ddiwreiddiwyd ar Fynydd Epynt. Gweddarlledwyd y ffilm 4 munud ar safle YouTube. (gwglwch TOMOS MORGAN, EPYNT)
Y drydedd act (y drydedd weithred) fydd taith DIWEDD Y BYD – digwyddiad theatrig a berfformir mewn capeli yn unig. ‘Capel y Babell oedd unig fan cyfarfod ffurfiol cymdogaeth y mynydd’, medd Euros Lewis, cyfarwyddwr y gwaith. ‘Trwy wahodd cynulleidfaoedd i grynhoi mewn capeli ry’ ni’n eu gwahodd i geisio ailgamu gyda ni dros drothwy y gymdeithas a gollwyd. Pobl yn dod at ei gilydd yw ystyr y gair ‘eglwys’. Yn y Babell y deuai pobl yr Epynt at ei gilydd. Dyma fan briodol felly i ni geisio ddod ynghyd i gofio amdanynt’, meddai.
Wrth geisio disgrifio DIWEDD Y BYD dywed nad drama mohoni. ‘Er fod y digwyddiad yn ddibynnol ar gwmni o chwaraewyr, nid actorion mohonynt. Nid ‘actio’ neu ‘esgus bod’ yw eu tasg. Y gair agosaf at ddisgrifio uchelgais eu gwaith yw cydymdeimlo. Yn wir y mae’r act o gydymdeimlo yn ein cysylltu’n uniongyrchol – yn chwaraewyr ac yn gynulleidfa - â’r diwylliant a ddiddymwyd pan ysbeiliwyd y gymdogaeth hon. Yn y theatr Gymreig, dyna’n cyfrifoldeb’, medd Euros.
DIWEDD Y BYD – CWMNI CYDWEITHREDOL TROEDYRHIW – AR DAITH: MEHEFIN-GORFFENNAF, 2010.
Manylion pellach: Euros Lewis – 01570 471328 – 07813 173155
TAITH DIWEDD Y BYD:
Nos Sul, 27 Mehefin (6.30) – Capel Seion, Cwm Wysg, Sir Frycheiniog
Nos Sul, 4 Gorffennaf (7.30) – Capel y Groes, Llanwnnen, Ceredigion
Nos Wener, 9 Gorffennaf (7.30) – Capel Crannog, Llangrannog, Ceredigion
Nos Sul, 11 Gorffennaf (7.30) – Capel Bethesda, Llanwrtyd, Sir Frycheiniog
Nos Fawrth, 13 Gorffennaf (8.00) – Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Gwynedd
Nos Fercher, 14 Gorffennaf (7.30) – Capel Siloam, Cwmystwyth, Ceredigion
Nos Iau, 15 Gorffennaf (8.00) – Capel Trelech, Sir Gaerfyrddin
Nos Fercher, 28 Gorffennaf (7.30) – Capel Seion, Crymych, Sir Benfro
Pob tocyn: £4.00
,
3 Comments:
Diolch. Ma'r safle'n ddiddorol iawn.
Diolch am roi'r manylion fan hyn - gwelais i'r sioe neithiwr yn Llangrannog a dw i moyn annog pobl eraill i fynd i'w weld ond o'n i'n methu ffeindio dyddiadau'r daith ar wfan y cwmni ei hun.
Roedd yn wych. Diddorol fyddai cymharu ymateb cynulleidfaoedd mewn gwahanol lefydd -- clwyais fod cynulleidfa Cwmystwyth yn cael un o'r emynau'n ddieithr.
Post a Comment
<< Home