Bydoedd
Cymaint o bethau da yng 'nghofiant cyfnod' Ned Thomas, Bydoedd, a lansiwyd yn ddiweddar. Mae'r bennod ar ei gyfnod ar Bodmin yn dysgu Rwsieg yn ystod ei wasanaeth milwrol ac yntau'n 18 oed yn agoriad llygad, fel y mae hanes cyfnod Salamanca. Yno ceir sôn am yr ysgolhaig Antonio Tovar a fu'n Weinidog Propaganda dros Franco am gyfnod, ond serch hynny, a fu wedyn yn hybu gyrfa'r gweriniaethwr pybyr, Koldo Mitxelena, yr ieithegwr a roddodd yr iaith Fasgeg ar ei thraed fel iaith unedig, safonol. Mae'r bennod agoriadol am blentyndod Ned Thomas yn yr Almaen ac yn y Swistir yn gyfareddol. Yma hefyd y mae'r hanes am sut yr ensyniwyd (gan Emyr Llew o bawb) ei fod yn ysbïwr. Roeddwn wedi clywed y si pan gwrddais â NT gyntaf, ac yntau'n rhedeg dosbarth nos yn y 70au ar waith Raymond Williams. Ond ni wyddwn y manylion. Bydd gwerthu mawr ar y gyfrol hon — mae ei darllen hi'n addysg ym mhob ffordd, yn bleser, ac yn ysbrydoliaeth. Sylweddoli o'r newydd gymaint o golled fu peidio â chael Y Byd i'w le.
3 Comments:
Mae'r bwt byr uchod wedi gwneud i mi fod eisiau darllen y gyfrol yma, diolch.
Dywed Gwenddolen
Mae'n werth gwneud hynny yn sicr, Rhys
Dyma'r dewis ar gyfer Llyfr y Flwyddyn ontife?
Post a Comment
<< Home