La Blouse Roumaine
Anna, a anwyd yn Rwmania ac a fagwyd am y flwyddyn gyntaf o'i bywyd mewn cartref i blant amddifad ym Mucharest, yn cyrraedd ei phen-blwydd yn ugain oed heddiw. Gofal a chariad gan ei theulu newydd yn Iwerddon wedi gweddnewid ei byd. Nôl yn 1989 roedd yn anodd dychmygu beth fyddai'n dod o'r plant hynny a ddioddefai mor enbyd dan law Ceaucescu. Mae'r teulu hefyd wedi rhoi lloches i ferch arall. Diddorol fod y fam newydd yn Iwerddon yn parhau'r traddodiad o waith dyngarol a gynchwynnwyd gan ei mam a'i thad ei hun, a roesai loches yn yr UD i ffoadur o Fietnam.
Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn mynegi siom fod Eisteddfod yr Urdd yn mynd i ganiatáu gwerthu alcohol ar y maes 'yng nghyd-destun bwyd'. Darllenwch yma. Plant dan oed yn slotian fodcas gyda'u sglodion? Wel na. Y pryder i mi, yn hytrach, yw fod yr Urdd yn mynd i golli peth o'i sglein — y glendid moesol a fu — os yw'n ymelwa fel hyn ar faes gwyl plant a phobl ifainc. Mae dadleuon tebyg yn codi gyda'r arlwyo, a dweud y gwir. Mae'r Steddfod fel y mae hi yn gyfle i'r Urdd ddangos nad oes rhaid wrth alcohol ym mhob digwyddiad diwylliannol. A gallai fod yn gyfle hefyd i ddangos fod bwyd iach, ffres a lleol hefyd yn flaenoriaeth mewn gwlad wâr. A bod rhywrai yn poeni am ôl-troed carbon Mr Urdd.
Rhaid mai hwn yw'r defnydd hyfrytaf yn y byd. Mae'r maint yn fawr iawn, fodd bynnag, yn rhy fawr i'r ffenestri bach sgwâr a'r nenfwd isel sydd gennyf fi. Mwy o luniau o'i gynlluniau yma
Llestri'r Festri: casgliad sydd gennyf ar y gweill ers blynyddoed lawer erbyn hyn, yn canolbwyntio ar lestri capeli (yng Nghymru yn bennaf, ond rhai o Loegr hefyd). Mae pathos arbennig yn perthyn i'r llestri gweddw hynny y mae eu capeli wedi cau neu wedi eu dymchwel (Bethany, Pontnewynydd, er enghraifft). Rhan arall o'r casgliad yn hen gyllyll a ffyrc a llwyau o cafés a restaurants a gwestyau sydd wedi cau neu sydd wedi rhoi ffling i'r hen stoc: cyllell o'r Hafod Arms (Pontarfynach), set o'r Continental Café yn Henffordd, llwy o'r Feathers, Llwydlo, ac yn y blaen.
Englyn a gyflwynwyd heddiw i Mrs Eurlys Jones, Ysgrifenyddes wych yr Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, sy'n ymddeol ar ddiwedd y mis.
Yn ffidlan gyda'r fwydlen ieithoedd ar Blogspot a gweld nad oes dim dewis Cymraeg o gwbl yma. Meddwl efallai y dylwn newid i ryw floglen arall ond yn gyndyn i fentro rhag ofn na fyddai pethau'n edrych cystal. Byddai Wordpress yn neis, ond braidd yn gymhleth gyda'r hen Mac OS X.3 sydd o'm blaen i y funud hon. Blogiau gyda chefndir tywyll sydd orau gen i, nid rhai antiseptig fel blog Dogfael er cystal cynnwys ac amrywiaeth hwnnw.
Llyfr hirddisgwyliedig Peter J. Conradi, At the Bright Hem of God: Radnorshire Pastoral newydd gael ei gyhoeddi gan wasg Seren (gyda lluniau da gan Simon Dorrell). Roedd yr awdur, sy'n rhannu ei amser rhwng Casgob a Llundain, yn Athro ym Mhrifysgol Kingston, a chyn hynny ym Mhrifysgol East Anglia. Bu'n gyfaill triw i Iris Murdoch ym mlynyddoedd olaf ei gwaeledd, a'i chofiannydd wedyn. Yn ôl ei gyfaddefiad ef ei hun, 'shamelessly personal' yw ei olwg ar hen sir Faesyfed a'r ffin yn gyffredinol, nodwedd sy'n ei gysylltu â Ffransis Payne o dref Ceintun. Barn Conradi ar waith arloesol Payne: 'passionate, sometimes moody . . . its irritability stemming from what it cherishes'. Mae Conradi'n dda ar bobl fel Alfred Watkins o Henffordd, y ffotograffydd campus a ddarganfu 'ley-lines', ac mae'r darnau eraill ar wahanol awduron yn flasus hefyd. Clywed ar y radio fod Hermione Lee wedi cyhoeddi A Very Short Introduction to Biography a dechrau meddwl am y bywgraffiadau gorau rwyf wedi'u darllen yn ddiweddar: y gorau o bell ffordd yw Kitty Hauser ar O.G.S. Crawford, Bloody Old Britain.
Marsh samphire yn Saesneg, Salicornia stricta, planhigyn hallt ei flas sy'n tyfu mewn morfeydd; cofnoda Geiriadur yr Academi hefyd y term chwyn hallt. Yn Saesneg hefyd sea asparagus a glasswort. Anaml y mae ar werth yn siopau Ceredigion, ond roedd cyflenwad ffres iawn o King's Lynn yn siop bysgod Cambrian Place, Aberystwyth Ddydd Sadwrn. Planhigyn bwytadwy tebyg yw True neu rock samphire,Crithmum maritinum), Cym. Ffenigl y môr, a elwir hefyd yn corn carw'r mor, a St Peter's herb. Mae'r enw Saesneg samphire wedi datblygu o'r Ffrangeg Saint Pierre, a'r cysylltiad wedi ei wneud rhwng y planhigion arfordirol hyn a Phedr, nawddsant y pysgotwyr. Mae'r enw Cymraeg arall sampier yn nes at yr hen ffurf Saesneg sampiere. Clywais Morfydd Owen (yng nghynhadledd Edward Lhuyd yn ddiweddar) yn dyfynnu barn Bruce Griffiths fod y gair unigol llys 'herb, planhigyn' wedi'i gyfyngu i eiriau cyfansawdd.