O'r Parsel Canol

Saturday 10 July 2010

Gair yr wythnos: Elenydd neu ynteu Elenid

Lansiad llywddiannus iawn neithiwr yn Amgueddfa Ceredigion o lyfr newydd y ffotograffydd dawnus, Anthony Griffiths o Aberystwyth. Yno yn canu cerdd dant roedd Côr CYD dan arweiniad Brenda Williams gydag Eleri Turner y delynores. Yn eu plith gwelais Bríd Davies, Cynog a Llinos Dafis, Gwilym Tudur, Carwen Fychan, Ann-Marie Hinde, Helle Michelsen, Felicity Roberts, a Sue Jones-Davies. Mae'r llyfr dywieithog hwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn cynnwys lluniau gwych iawn o ucheldir canolbarth Cymru, o Bumlumon i lawr hyd at Gwm Elan, ac fe gyflwynwyd y noson yn ddeheuig gan Jen Llywelyn, golygydd gyda Gwasg Carreg Gwalch a dysgwraig sydd wedi meistroli'r Gymraeg yn eithriadol o dda.

Roedd cryn drafod ar deitl y gyfrol, sef Elenydd, ac i ba raddau y mae hyn yn cyfateb i'r term Saesneg, y 'Cambrian Mountains' bondigrybwyll. Roedd Liz Fleming-Williams yn llygad ei lle'n dweud mai o'r enw afon Elan y mae enw'r ardal yn tarddu. Mae'r afon honno'n codi yng Ngheredigion ac yn llifo drwy'r gweithfeydd dwr i lawr i ymuno ag afon Gwy ger Llanwrthwl, ryw ddwy filltir i'r de o Raeaedr Gwy. Ond y ffurf wreiddiol ar yr ardal oedd Elenid, meddai R.J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, 65-66, ac er bod ganddo restr o hen ffurfiau o'r 12g ymlaen, gyda rhai ohonynt yn gorffen yn -yth/ith, mae'r ffurfiau odledig yn y farddoniaeth yn cadarnhau mai Elenid oedd y ffurf safonol erstalwm yng ngolwg y beirdd canoloesol. Dyma'r enghreifftiau: gan Phylip Brydydd yn y 13g (CBT VI 14.42) Myn y rhed Rhediawl [afon Rheidol heddiw] o Elenid (yn odli ag anghyfrdelid); a chan Iorwerth Fychan, 13g Lle rhed olwynawr [ceffylau] o Elenid (yn odli ag ermid) (CBT VII 29.8). Mae testun y chwedl Math fab Mathonwy hefyd yn cadarnhau'r ffurf yn -id. Posibl iawn fod y ffurf yn -ydd wedi datblygu drwy gydweddiad â therfyniad enwau ardaloedd fel Maelienydd, Meirionydd, etc. Elenid Jones yw enw nith yr ysgolhaig mawr G.J.Williams, felly, nid Elenydd!

O ran yr union leoliad, mae Christine James yn nodi yn CBT VII, 317 mai 'y mynydd-dir a elwir heddiw yn Bumlumon' yw Elenid; ac felly Morfydd E. Owen, CBT VI, 206, ac Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi 259. Mae Gerallt Gymro yn nodi fod Hafren, Gwy, Tywi, Hafren, Ystwyth a Theifi yn tarddu yn Elenid, gan ddweud hefyd am yr enw Moruge (?gair hynod yn cyfeirio at gors). Mae pob math o wybodaeth am yr ardal brydferth hon ac am ei bywyd gwyllt a'i hanes yma

0 Comments:

Post a Comment

<< Home