Capel y Babell a Diwedd y Byd: noson Llanwrtyd
Noson wirioneddol dda yng Nghapel Bethesda Llanwrtyd neithiwr gyda Chwmni Troedyrhiw yn cyflwyno Diwedd y Byd. Roeddwn innau, a rhai o bobl y pentref, wedi bod yn poeni na fyddai neb yn troi lan: yn wir, awgrymodd f'wncwl y dylid cysylltu'n ddi-oed ag Euros Lewis i'w rybuddio. Ond yn y wir, roedd bron i hanner cant yno, ac roedd y cast yn niferus (dau grwp o wyth), felly roedd pawb yn falch fod yna gynulleidfa deilwng. Ymgynullwyd yn y festri i ddechrau ac yna ymlaen i'r capel ei hun i ail-fyw gwasanaeth yng Nghapel Y Babell, Epynt. Cyflewyd undod y gymdogaeth gan y cydweddio, a'r adrodd ar y Salmau a rhannau eraill o'r Ysgrythur, a hefyd gan feimio effeithiol yn dangos y dynion wrth y cnaif. Nid actorion proffesiynol oedd y dynion, ond roedden nhw'n edrych yn drawiadol o wledig (ac eithrio'r dillad parch a oedd dipyn yn yn rhy smart). Mae un o'u plith, Dr Roger Owen, yn fab ffarm ei hun ac yn darlithio yn yr Adran Ddrama yn y coleg yn Aberystwyth. Cwpl o bethau gwir ysgytwol: wrth i'r gynulleidfa ganu pedwar emyn, cawsom y wefr o'i morio hi a theimlo fod y capel dan ei sang. Roedd y codwr canu'n anghyffredin o dda. Ar ddiwedd pob emyn, chwaraewyd y pennill olaf nôl inni, ond nid yn yr emyn olaf pan aeth côr y cwmni ei hun allan gan adael y gweddill ffyddlon i straffaglio ymlaen hyd y diwedd. Yr ail beth oedd y defnydd o dapiau sain, gyda lleisiau Meredydd Evans, Ffred Ffransis, Angharad Tomos, a Dafydd Iwan, ond yna erbyn y diwedd, 'Land of Hope and Glory' a swn saethu yn chwyddo. Ysgytwad hefyd pan wasgarwyd taflenni o'r galeri yn hysbysu trigolion y 54 cartref fod rhaglen y Weinyddiaeth i feddiannu tir a daear a bywoliaeth 220 o eneidiau eisoes ar droed. Y gwacáu wedyn, a'r sgriniau cyfrifiadur ar y naill ochr a'r llall yn dangos caead yr arch yn cael ei hoelio'n dynn.
Roedd golwg sbriws iawn ar y pentref neithiwr: rhai o'r blodau yno yn sgil ymweliad cyfres S4C ar Y Porthmon. Da gweld Erwyd Howells, y Bugail o'r Parsel, yn cael rhan flaenllaw yn y sioe hon. Ac roedd rhai o'r blodau yn sgil ymweliad gan Charles Windsor a fu heibio i'r siop fwtsiwr a gedwid slawer dydd gan fy hen fodryb Bet (Cammarch Valley Butchers erbyn hyn). Deallais hefyd fod Capel Bethesda ei hun wedi trefnu cael paentio ei reilings ar gyfer yr ymweliad brenhinol. Byddaf innau'n dychwelyd yn fuan i'r pentref i gael cyflenwad o ddwr sylffyr sy'n dda at eczema ac anhwylderau eraill ar y croen.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home