O'r Parsel Canol

Friday 23 July 2010

Llyfr nodiadau Burma

Hysbysebu hudolus o greadigol gan gwmni dillad Nigel Cabourn yn dwyn i gof hen albwms fy nhad o'r cyfnod pan oedd allan yn India yn ystod y rhyfel. Y shorts, y bag ('partly hand made by ladies in an old leatherworks tannery in Cumbria'!), y cwbl mor amhosib o wych a retro. A phetawn yn fachgen buaswn yn bendant yn mynd am y siwmper yma 'inspired by the jumper worn by Tom Bourdillon who was famously pictured wearing it inside-out. We made the piece inside-out to stay true to this image'. Bron cystal รข chot ddyffl Kenneth More yn Sink the Bismarck.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home