Gair yr wythnos: marian
Rhywun o dramor yn holi ai eglwys wedi'i chysegru ar enw Mair Forwyn oedd Llanfarian. Minnau'n egluro nad oes eglwys yno fel y cyfryw, ac mai Eglwys Sant Llwchaearn yw'r un agosaf. Tybir bod llan efallai wedi datblygu o nant yn wreiddiol. Wedyn marian yn golygu 'graean', yn cyfeirio at y traethau graeanllyd a welir ar lan afon Ystwyth yno ar ddwy ochr y bont. Dechreuais feddwl wedyn am Marian-glas, Tanymarian, ac enwau eraill cyffelyb, a hyd yn oed am enw Marian Delyth y ffotograffydd o ardal Blaen-plwyf, ychydig i'r de. Does dim tarddiad wedi'i nodi yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond efallai fod modd ei gysylltu â'r gair Galeg marga a fenthycwyd i Ladin Diweddar marga 'marl'.
A sôn am Marian Delyth na chafodd ei siâr haeddiannol o'r clod am Lyfr y Flwyddyn eleni, mae gennyf gof fod Ted Breeze Jones (lluniau) a Gwyn Thomas (cerddi) wedi bod yn ddeuawd anwahanadwy adeg Llyfr y Flwyddyn 1994 pan oedd eu cyfrol Anifeiliaid y Maes Hefyd ar y rhestr fer o dri gyda Saith Pechod Marwol Mihangel Morgan. Ond Robin Chapman, ein Michael Holroyd ni'r Cymry, enillodd y jacpot y flwyddyn honno yng Ngwesty Sandringham yng Nghaerdydd. Cofiant W.J. Gruffydd. Cof anhygoel? Na, roedd eich bloggiste yn un o'r beirniaid y flwyddyn honno pan oedd y drefn yn bur wahanol, ac yn decach hefyd.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home