Tin pinc o Awstria
Awstria yn ymdrechu'n galed i dynnu'r twristiaid yn ôl, ond mae rhywun yn ofni y bydd Brüno (Sacha Baron Cohen) yn gwneud mwy o niwed eto i ddelwedd y wlad. Y llety enwocaf i'r Cymry Cymraeg yw gwesty wunderschön Frau Anita Schenk ( Cymraes o Flaenau Ffestiniog) a'i gwr rhadlon, Heinz, sy'n gogydd tan gamp. Gwesty mewn adeilad traddodiadol ar gyrion Altenmarkt im Pongau sydd i'r de o Salzburg, yn gyfleus ar gyfer cerdded y mynyddoedd, dilyn Mozart, gwibio i Hallstatt a Hallein a gweld holl ardal y Salzkammergut. Stafelloedd arferol, a hefyd fflat ar gael. Pwll nofio'r dref yn agos, a pharc chwarae, a'r dref ei hun yn ddiogel, yn ddiddorol, ac yn lân. Lle delfrydol ar gyfer teulu â phlant ifainc. Anfantais i rai fyddai cwrdd â rhywrai eraill o Gymru . . . . ond nid i bawb. Gweler ymhellach yma. Nid wyf yn perthyn i'r perchnogion nac yn elwa mewn unrhyw ffordd ar hyn o hys-bys. Yr ail le y mae'n werth gwybod amdano yw Hotel Schwalbe yn Fienna, ym maestref Ottakring, yn agos i'r U-Bahn Linie 3. Dyma le arall sy'n groesawgar iawn, ac yn llawn awyrgylch yr hen ddinas. Y bumed genhedlaeth sy'n cadw'r lle. Bûm yno gyntaf yn 1983, ac eto eleni amser Pasg chwarter canrif yn ddiweddarach.
Nythaid o wenoliaid tew ar fin gadael clydwch y nyth yn y porch. Holl ofal y rhieini wedi talu ar ei ganfed.
Ymgrymed pawb i lawr
Ffilm Gideon Koppel, Sleep Furiously, am fywyd a gwaith a thirwedd ein hardal, yn cael ei chanmol ar bob tu ac yn haeddiannol felly. Mae'r ffilm yn cael ei dangos nawr yn Llundain ac mae sôn y bydd ar gael cyn bo hir ar DVD. Mae'n dangos eto yng Nghanolfan y Celfyddydau o 12-17 Mehefin gyda sesiwn hawl-ac-ateb gyda'r cyfarwyddwr, Gideon Koppel (uchod, mab Pip Koppel, Llety Caws) ar 20 Mehefin, am 5.45 p.m. Mae'n siarad am y ffilm ar safle BBC Film Network yma. Ac mae clip o'r ffilm i'w weld yma. Rhai o uchafbwyntiau'r ffilm i mi oedd Dyn Y Fan Llyfrgell (a welais ar un o heolydd cefn y Parsel Canol y diwrnod o'r blaen); côr ABC gyda holl angerdd y gerddoriaeth (gan ?Stanford) yn cael ei fynegi yn wyneb Angharad Fychan; a'r darnau a saethwyd gyda'r plant yn Ysgol Trefeurig. Doedd tempo araf y ffilm ddim at ddant pawb yn y Parsel ei hun, ond rwy'n siwr y bydd y ffilm hon yn dod yn glasur.
Echrys yn mynd drwof wrth weld llun Nick Griffin buddugoliaethus ar brif wefan DU y BBC y bore yma. Yn falch dros ben fod Jill Evans wedi cael ei hethol am y drydedd waith: rhywun o sylwedd ac argyhoeddiad (ac un o alumni Prifysgol Aberystwyth, wrth gwrs!).
Ensemble o ddillad a welwyd mewn sawl teyrnged iddo y llynedd, fel Yma. Fe'i cynlluniwyd, fel ei holl wisgoedd ar gyfer Diwrnod y Gyllideb, gan ei wraig Marjorie (née Davies), a oedd yn artist, yn ddylunydd ac yn bennaeth yr adran addysg yn Ysgol Gelf Caerdydd.
Minnau am unwaith yn fy mywyd yn y fan a'r lle pan oedd hanes yn digwydd — brynhawn Dydd Gwener, 5 Mehefin, yn Mhont-y-pwl, yn yr Amgueddfa lle roedd arddangosfa fach am Leo Abse ac am fardd lleol yn cael ei hagor yng ngwydd tua chant o ymwelwyr. Siaradodd Dannie Abse yn huawdl iawn am ei frawd; yna daeth Paul Murphy, AS Torfaen ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymlaen i sôn am ddylanwad Abse arno ef yn bersonol, ac am ffordd y gwnaeth ei ddeddfwriaeth ym meysydd cyfunrywiaeth, ysgariad, etc. newid bywyd i filoedd ar filoedd o unigolion. Yna, atgofion Bathsheba am ei thad a'i mam (Marjorie Davies), a'r ffordd y byddai'r teulu bob Nadolig yn treulio'r diwrnod yn ymweld ag ysbytai'r etholaeth a chartrefi'r henoed. Paul Murphy'n gartrefol iawn gyda phawb amser te. Ond erbyn dod allan o'r cyfarfod a throi mlaen radio'r car, dyma ddeall fod Paul Murphy wedi cael ei ddisodli'n ddisymwth gan Peter Hain. Au revoir eto. Diwrnod du i Lafur.
Mewydus 'dioglyd, swrth', o mewyd 'diogi' a esgorodd hefyd (erbyn 1866) ar y gair mewydyn 'mamolyn hirflew diddannedd araf a swrth sy'n byw yn fforestydd trofannol Canolbarth a De America, ac sy'n perthyn i deulu'r Bradypodidae'. Sloth, mewn geiriau eraill. Pwy fuasai'n meddwl?
Braidd neb o gwmpas heno yng Ngorsaf Bleidleisio'r Parsel Canol. Y rhestr yn hwy na'r disgwyl gyda dwy garfan o nacawyr Ewrop, plaid 'Gristnogol' Cymru, Llafurwyr Scargill, BNP, a no-hopers eraill. Efallai fod pawb yn yr ardd ar ôl swper. Yn rhyfedd iawn mae'r tai newydd gyda'u gerddi anffurfiol, anniben, wedi gwella golwg y pentref. Ond i ble yr aeth yr hen A35 llawn o flodau? Gardd sy'n werth ei gweld yw honno ar dop y Waun yn Aberystwyth sy'n llawn pabis cochion, pob un o faint plât. Blwyddyn dda ar gyfer rhai planhigion eleni: fioledau, briallu wedi ffynnu, ond Valerian (Triaglog) yn siomedig, yn y Parsel Canol beth bynnag.