Llefydd da i aros yn Awstria
Awstria yn ymdrechu'n galed i dynnu'r twristiaid yn ôl, ond mae rhywun yn ofni y bydd Brüno (Sacha Baron Cohen) yn gwneud mwy o niwed eto i ddelwedd y wlad. Y llety enwocaf i'r Cymry Cymraeg yw gwesty wunderschön Frau Anita Schenk ( Cymraes o Flaenau Ffestiniog) a'i gwr rhadlon, Heinz, sy'n gogydd tan gamp. Gwesty mewn adeilad traddodiadol ar gyrion Altenmarkt im Pongau sydd i'r de o Salzburg, yn gyfleus ar gyfer cerdded y mynyddoedd, dilyn Mozart, gwibio i Hallstatt a Hallein a gweld holl ardal y Salzkammergut. Stafelloedd arferol, a hefyd fflat ar gael. Pwll nofio'r dref yn agos, a pharc chwarae, a'r dref ei hun yn ddiogel, yn ddiddorol, ac yn lân. Lle delfrydol ar gyfer teulu â phlant ifainc. Anfantais i rai fyddai cwrdd â rhywrai eraill o Gymru . . . . ond nid i bawb. Gweler ymhellach yma. Nid wyf yn perthyn i'r perchnogion nac yn elwa mewn unrhyw ffordd ar hyn o hys-bys. Yr ail le y mae'n werth gwybod amdano yw Hotel Schwalbe yn Fienna, ym maestref Ottakring, yn agos i'r U-Bahn Linie 3. Dyma le arall sy'n groesawgar iawn, ac yn llawn awyrgylch yr hen ddinas. Y bumed genhedlaeth sy'n cadw'r lle. Bûm yno gyntaf yn 1983, ac eto eleni amser Pasg chwarter canrif yn ddiweddarach.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home