Y bysys gwyrdd eto
Dyma ni fwy o fanylion am y bysys retro gwych sydd o gwmpas Aberystwyth ar hyn o bryd.
Dyma ni fwy o fanylion am y bysys retro gwych sydd o gwmpas Aberystwyth ar hyn o bryd.
Beth yw hyn? Gwelais ddau fys gwyrdd yn edrych yn debyg iawn i'r hen rai gwyrdd a oedd gan Crosville slawer dydd, gyda'r enw hwnnw mewn aur tywyll. Ond rhai go newydd oedd y rhai a welais i ddoe — dim byd amdanynt ar safle Arriva Wales, sy'n dangos y rhai hyll cyffredin sy'n wyrddlas + lliw hufen. A oes rhywun yn gwybod rhywbeth am hyn? Ydy Tredelyn yno yn rhywle i gynnig ateb?
Wedi cael ar ddeall gan rywun sy'n gwybod beth yw beth yn ieithyddol fod Gwyddeleg y Frenhines — y pedwar gair hynny nad oedden nhw yn ei sgript — yn gwbl wych o ran yr ynganiad. Mae hynny'n dda ac yn annisgwyl. Mae ganddi ddillad gwych iawn hefyd yn fy marn i.
Trist iawn oedd clywed fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd y cam tyngedfennol i gau Ysgol y Parc er gwaetha'r gwrthwynebiad lleol. Mae 19 o ddisgyblion yn rhif digon parchus: bu fy mhlant innau mewn ysgol fach debyg yng Ngheredigion, a chael addysg dda yn eu cymuned. Ymhen blynyddoedd efallai y bydd pobl yn edrych nôl ac yn gweld ffolineb y penderfyniadau hyn i 'resymoli' addysg gynradd a hynny ar draul y cymunedau lleol. Mae Ffred Ffransis yn ddyn dewr, ac mae'n drist meddwl nad oedd ei safiad — i fynd heb fwyd a diod — wedi gwneud iot o wahaniaeth i'r cynghorwyr yng Nghaernarfon.
Rhifyn coffa Brenda Chamberlain yn 1972. Dyma un o'r rhifynnau cyntaf o'r Anglo-Welsh Review a brynais i mi fy hun pan oeddwn yn fyfyrwraig — y clawr yn atyniad mawr, a'r erthyglau am y bardd a'r artist.
Amen ac amen i sylwadau Cerys Matthews yn y Guardian am ei harwr Roy Saer a'i waith diflino ar gerddoriaeth a thraddodiadau gwerin ar hyd y blynyddoedd. Wythnos yn ôl cefais glywed aelodau Fern Hill, Daniel Huws, ac Eleri Mills (ar y delyn) yn canu yng ngardd heulog Plas Hendre, Aberystwyth. Yno hefyd yn mwynhau caneuon Calan Mai roedd Meredith Evans a Phyllis Kinney.
Un llyfr yn unig yn ymwneud â'r Gymraeg sydd gan y cyhoeddwyr swanky Brill ar eu rhestr ar hyn o bryd: llyfr newydd Dr Sara Elin Roberts am Lawysgrif Pomffred a fu ar un adeg yng Nghastell Pontefract (sef y Pomffred yn y teitl). Golygiad o un o fersiynau Cyfraith Hywel Dda (dull Cyfnerth) sydd yma, ac mae ar gael rhwng cloriau caled (130 euro) neu fel e-lyfr. Llyfr arall o ddiddordeb mawr, a ddaeth allan ym mis Chwefror yw llyfr newydd yr ieithydd a'r tafodieithegydd Dr Gwenllian Awbery ar gerrig beddau (Gwasg Llygad Gwalch).