O'r Parsel Canol

Thursday 5 May 2011

Brill

Un llyfr yn unig yn ymwneud รข'r Gymraeg sydd gan y cyhoeddwyr swanky Brill ar eu rhestr ar hyn o bryd: llyfr newydd Dr Sara Elin Roberts am Lawysgrif Pomffred a fu ar un adeg yng Nghastell Pontefract (sef y Pomffred yn y teitl). Golygiad o un o fersiynau Cyfraith Hywel Dda (dull Cyfnerth) sydd yma, ac mae ar gael rhwng cloriau caled (130 euro) neu fel e-lyfr. Llyfr arall o ddiddordeb mawr, a ddaeth allan ym mis Chwefror yw llyfr newydd yr ieithydd a'r tafodieithegydd Dr Gwenllian Awbery ar gerrig beddau (Gwasg Llygad Gwalch).

0 Comments:

Post a Comment

<< Home