Drenewydd, Dinefwr, Llandeilo, Lichfield
Diwrnod olaf yr hydref cyn i'r clociau fynd yn ôl. Y trip o ogledd Ceredigion Ddydd Sadwrn i eangderau mwyn sir Gâr fel mynd i wlad dramor. Diwrnod i'w ryfeddu rhwng popeth — cwmni un o'm ffrindiau hynaf a oedd draw dros y Sul o Iwerddon, teisennau hufen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Newton House (Drenewydd), cael lolian yn y llyfrgell a chyffwrdd â phob dim; cael chwarae Chopin ar y Steinway, a chlywed Cynddelw Brydydd Mawr ei hun yn darllen ei gerdd ddadolwch i'r Arglwydd Rhys (Aswynaf nawdd Duw, diamau ei ddawn, etc.). Cerdded lan i'r castell, a rhyfeddu o'r newydd at afon Tywi a'i dolennau hyd y ddôl. Yn y dref, am 4.00 o'r gloch, cawsom fynediad ar y funud olaf (eleni!) i weld yr arddangosfa ragorol sy'n dathlu Llyfr Efengylau Sant Chad. Heb fod erioed i Lichfield ger Birmingham i weld y gwreiddiol ond yn gobeithio gwneud hynny cyn bo hir a gweld angel Lichfield yr un pryd.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home