Edward Johnston, Writing and Illuminating and Lettering
Wedi treulio diwrnod da heddiw yn gwrando ar Ieuan Rees y ceinlythrennwr yn trafod ei grefft mewn gweithdy yn Aberystwyth. Pob math o straeon difyr ganddo, a llawer iawn o synnwyr cyffredin ac agwedd ffres ar bethau — pobl yr ysgolion celf yn fwy agored eu meddwl na'r rhan fwyaf. Ni wyddwn i fod gofyn berwi nibs cyn eu defnyddio, a'u llyfu er mwyn i'r amino acids frathu i mewn rywfaint i'r metel a helpu'r nib i gael gwell gafael ar y papur. Offer Boxall yn dda ar gyfer gwaith arddangos mawr, mae'n debyg (erbyn hyn yn Automatic Pens) ond ddim cystal â'r hen rai. Wedi mynd i chwilio am hen lyfr Edward Johnston, Writing and Illuminating and Lettering a gefais yn anrheg ben-blwydd yn 1982 gan fy nghariad ar y pryd, a gwerthfawrogi o'r newydd fanylder y drafodaeth, a harddwch y llyfr. Yn cael llawer o anhawster i gael nib sy'n siwtio rhywun sy'n llaw bwt, fel fi.
Am enw hyfryd sydd gan fabi newydd y Cameroniaid. Endelyn yr enw Cernyweg yn swnio ychydig fel enw eich blogiedydd,ac felly i'w ganmol ar bob cyfrif, ac yn well dewis na Lamorna. Mae Florence hefyd yn enw da. Ble aeth y syniad o Enid tybed? Blyton, Bagnold, Starkie, Morgan, P, ond heb fod yn ffefryn yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Stand-by am lu o enwau Cernyweg o hyn allan. Jowanet etc.
Hen waith celf a wnes i pan oeddwn yn 20. Wedi llosgi'r patrwm ar deilsen polystyrene -- gan ollwng pob math o nwyon ffiaidd, fwy na thebyg. Gwedd hynafol iawn ar y print erbyn hyn.
Wedi bod yn clirio'r dreiriau a dod ar draws y llun cyflym hwn gan Douglas Hague yn 1986.
Pum diwrnod nawr i fynd cyn mynd i weld perfformiad o'r Persians gan Aeschylus, ar Fynydd Epynt. Cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol dan Mike Pearson sydd wedi gwneud gwaith mor wych dros y blynyddoedd. Rwy'n cofio'r wefr o weld Brith Gof a Test Dept yn perfformio'r Gododdin yn hen ffatri Rover ym Mae Caerdydd — yn ôl tua 1984 rwy'n meddwl. A'r gynulleidfa erbyn y diwedd yn wlyb sop a'r cylch mawr yn y canol yn llawn dwr. Mae'n dda bod rhaglen deledu wedi'i gwneud yn dangos perfformiadau mewn gwahanol fannau -- yng Nglasgow, ac mewn hen chwarel yn yr Eidal. Coffa da am Brith Gof a'u cyfres o gynyrchiadau am Ryfel, ac am Cliff McLucas y cynllunydd. Mae Rowan O Neill yn gwneud PhD ar waith Brith Gof yn yr Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae Mike Pearson yn athro. Yr oedd Margaret Ames yn y Gododdin hefyd, gydag Alun Elidyr a nifer o rai eraill a aeth ymlaen i ddod yn enwog.
Newydd dderbyn Transactions of the Radnorshire Society, y gyfrol am 2008, sy'n cynnwys am y tro cyntaf gyfieithiad i'r Saesneg o ran gyntaf gwaith arloesol a swynol Ffransis G. Payne, Crwydro Maesyfed. Dyma lafur cariad gan Dai Hawkins (Dafydd y Garth), ac mi fydd yn agoriad llygad i drigolion yr ardal nad ydynt yn medru'r Gymraeg. Gyda llyfr Peter Conradi At the Bright Hem of God, a llyfr gwych Richard Suggett ar dai'r gororau, mae'r hen sir annwyl yn mwynhau orig fach eto yn yr haul. Da oedd clywed am y grant sydd wedi'i roi i eglwys Llananno hefyd.
Roedd gwedd etymolegol ar y bregeth a gawsom yn y capel heddiw (nid gan ein bugail ni). Cafodd y gair gwanwyn ei egluro fel gwan 'weak' + wyn 'lambs' — am mai tymor y defaid a'r wyn yw'r gwanwyn a'r wyn yn dal i fod yn ifanc ac yn wan. I wish. Gwaeanwyn gydag -a- arall yn y canol oedd y gair slawer dydd. A'r gair yn dod o hen air Celtaidd y mae'r geiriaduron yn dweud sy'n perthyn o bell i'r gair Lladin ver 'gwanwyn', etc. — pwy fuasai'n credu? A oes un o'r selogion wedi cael blogspot i ganiatáu rhoi to bach ar w ac y, gyda llaw?
Y llygoden ddi-wifr newydd sy'n cael lot o ddefnydd, mae'n wir, erbyn hyn yn llyncu dau fatri bob dydd. A oes rhywbeth yn bod neu a fydd rhaid imi brynu teclyn arall i siarsio lan y batris yn dragwyddol. Rhywbeth arall trychinebus heddiw oedd f'arbrawf cyntaf gyda pheiriant gwneud bara -- cefais fenthyg un gan ffrind am gwpl o ddiwrnodau. Am lanast ffiaidd. Rhan o'r broblem efallai am 'mod i wedi anghofio'r dwr y tro cyntaf. Ar ddiwedd y ddwy awr a hanner roedd gwynt ffein drwy'r ty ond och a gwae, y cwbl heb gymysgu a'r blawd amrwd drwy'r 'dorth' i gyd. Af i nôl at wneud y tair torth wythnosol yn yr hen ffordd.
Gwych gweld Jerry Hunter yn tynnu ysbrydoliaeth o stori Gwenddydd a Myrddin ar gyfer ei nofel Gwenddydd a enillodd y Fedal Ryddiaith Ddydd Mercher. Da ei glywed hefyd, pan ofynnodd Beti George iddo a ydoedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn Gymro, yn ateb mai Americanwr oedd ef ac nad oedd modd newid cenedligrwydd. Dysgu'r iaith, ie, a rhagori ar ei defnyddio'n greadigol, magu teulu o Gymry, ond eto'n ddigon hyderus i fod yr hyn ydyw. Mae nhw mor dalentog ill dau ac rwy'n edrych mlaen at ddarllen eu gwaith pan gaf fy nwylo ar y cyfrolau yn Siop Inc yfory. Gwlyb a diflas yn y Parsel heno.