Tudur Hallam a Jerry Hunter
Gwych gweld Jerry Hunter yn tynnu ysbrydoliaeth o stori Gwenddydd a Myrddin ar gyfer ei nofel Gwenddydd a enillodd y Fedal Ryddiaith Ddydd Mercher. Da ei glywed hefyd, pan ofynnodd Beti George iddo a ydoedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn Gymro, yn ateb mai Americanwr oedd ef ac nad oedd modd newid cenedligrwydd. Dysgu'r iaith, ie, a rhagori ar ei defnyddio'n greadigol, magu teulu o Gymry, ond eto'n ddigon hyderus i fod yr hyn ydyw. Mae nhw mor dalentog ill dau ac rwy'n edrych mlaen at ddarllen eu gwaith pan gaf fy nwylo ar y cyfrolau yn Siop Inc yfory. Gwlyb a diflas yn y Parsel heno.
1 Comments:
Fyddet ti'n gallu dweud rhywbeth ar y blog am Gwenddydd a Myrddin. Does dim lot amdanyn nhw yn y Cydymaith. Oedd Jarman wedi sgrifennu am Gwenddydd hefyd?
Post a Comment
<< Home