Y Mac Mouse bwyteig
Y llygoden ddi-wifr newydd sy'n cael lot o ddefnydd, mae'n wir, erbyn hyn yn llyncu dau fatri bob dydd. A oes rhywbeth yn bod neu a fydd rhaid imi brynu teclyn arall i siarsio lan y batris yn dragwyddol. Rhywbeth arall trychinebus heddiw oedd f'arbrawf cyntaf gyda pheiriant gwneud bara -- cefais fenthyg un gan ffrind am gwpl o ddiwrnodau. Am lanast ffiaidd. Rhan o'r broblem efallai am 'mod i wedi anghofio'r dwr y tro cyntaf. Ar ddiwedd y ddwy awr a hanner roedd gwynt ffein drwy'r ty ond och a gwae, y cwbl heb gymysgu a'r blawd amrwd drwy'r 'dorth' i gyd. Af i nôl at wneud y tair torth wythnosol yn yr hen ffordd.
4 Comments:
Mae dau fatri y dydd yn swnio bach yn drwm, ond mae'r llygod yna yn boen, er mor neis maen nhw'n edrych. Oedd un 'da fi ar y Mac diwetha, ac un o'r pethau cyntaf i mi ordro ar gyfer y mac newydd oedd llygoden gyda chynffon. Yn bendant bydd angen peiriant siarso, a digonedd o fatris wrth law.
Y peth gwaethaf am y llygoden batris oedd ei ffordd o farw pan o'n i yng nghanol gêm poker, a finnau'n mynd i banig, ceisio ail-osod y batris cyn i mi golli fy nhro yn y gêm. Byth 'to.
Wel diolch am y tip Nic -- y llygoden gynffonog amdani. Wedi cael yr un profiad ar ganol rhywbeth pwysig, ond heb fod mor dyngedfennol â pocer chwaith.
Mae gen i lygoden ddigynffon a dw i reit ffond ohoni. Mi gafodd gyfnod o fwyta batris ond mae'n bodloni ar ddau fatri bob rhyw dair wythnos i fis (am wn i) erbyn hyn. Dw i'n meddwl y dylai'r batris bara mwy na hynny ond rwy reit drwm ar y llygoden, druan.
Wedi cael batris sy'n siarsio erbyn hyn ac wedi dysgu diffodd y llygoden pan af i bant i wneud rhywbeth arall. Rwy'n leicio'r teimlad o gael y ford o'm blaen yn glir, heb wifrau, rhaid dweud. Bron flwyddyn yn ôl y gwelais i di ym mharti Iestyn Daniel!
Post a Comment
<< Home