O'r Parsel Canol

Sunday 15 August 2010

Y Persiaid yng Nghilieni

Pum diwrnod nawr i fynd cyn mynd i weld perfformiad o'r Persians gan Aeschylus, ar Fynydd Epynt. Cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol dan Mike Pearson sydd wedi gwneud gwaith mor wych dros y blynyddoedd. Rwy'n cofio'r wefr o weld Brith Gof a Test Dept yn perfformio'r Gododdin yn hen ffatri Rover ym Mae Caerdydd — yn ôl tua 1984 rwy'n meddwl. A'r gynulleidfa erbyn y diwedd yn wlyb sop a'r cylch mawr yn y canol yn llawn dwr. Mae'n dda bod rhaglen deledu wedi'i gwneud yn dangos perfformiadau mewn gwahanol fannau -- yng Nglasgow, ac mewn hen chwarel yn yr Eidal. Coffa da am Brith Gof a'u cyfres o gynyrchiadau am Ryfel, ac am Cliff McLucas y cynllunydd. Mae Rowan O Neill yn gwneud PhD ar waith Brith Gof yn yr Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae Mike Pearson yn athro. Yr oedd Margaret Ames yn y Gododdin hefyd, gydag Alun Elidyr a nifer o rai eraill a aeth ymlaen i ddod yn enwog.

Mae'r Persians wedi derbyn tipyn o sylw gan bapurau Llundain a chan y beirniad Michael Billington. Rwy'n deall fod y tocynnau wedi hen werthu allan, a lwc imi benderfynu ar hyn, felly, rai misoedd yn ôl. Edrych mlaen yn fawr.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home