O'r Parsel Canol

Friday 6 April 2012

Gair yr wythnos: adborth

Neu'n hytrach atborth, fel y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn awgrymu y dylem sillafu'r gair. A Geiriadur yr Academi hefyd o ran hynny. Gair newydd yw hwn a ymddangosodd gyntaf yn 1965. Ble y byddem hebddo, tybed? Beth oedd pobl yn dweud slawer dydd? Cael barn rhywun ar rywbeth? Cael ymateb rhywun? Cael clywed rhywun arall yn rhoi cyngor inni ar ein cynnydd? Neu beth? Ond at sillafu'r GPC: mae pawb rwy'n nabod yn defnyddio'r ffurf adborth, nid atborth. Gwglbrofwyd hyn gyda 539,000 o blaid, ac 119,00 yn cynnig imi At Birth (Separated, Average weight, etc.) neu At Borth (Animalarium) a phob math o sothach felly. So go with the flow fel Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor (nid Prifysgol Cymru), GIG, CBAC, a phob duffer arall? O ddifrif, a oes eisiau esgus bod y gair hwn wedi'i ffurfio adeg *ate + p- yn troi'n adeb- wedyn yn atb? Yn 1965! No way, hyd yn oed ar ddelw geiriau eraill.

Gair diddorol arall wrth bori yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant yw atarw, neu ad-darw a ddiffinir (?) fel 'Tarw llawndwf wedi ei (hanner) ysbaddu, bwla, adfwl'. Hanner ysbaddu? Bydd rhaid imi holi yn y Parsel am wybodaeth ar y pen hwnnw. Ac ni wyddwn mai '(natural) satellite' oedd ystyr atblaned, neu fel y dywed GPC 'lleuad osgordd'. Da 'nte?

0 Comments:

Post a Comment

<< Home