Gair yr wythnos: temprus
Clywais y gair hwn heddiw yn yr oedfa gan un a oedd wedi'i fagu ym Mhen Llyn. Fe'i defnyddiodd wrth gyfeirio at Bedr, y disgybl 'oriog, temprus'. Nid wyf wedi clywed y gair (sy'n dod o temp(e)r + us, GPC) yn cael ei ddefnyddio fel hyn o'r blaen, ar gyfer rhywun sy'n dueddol o fod yn wyllt, yn colli ei limpin — ond wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr. Byddwn innau'n ei ddefnyddio, er enghraifft, wrth sôn am ddilledyn sy'n demprus, 'aired', a'r cwpwrdd tempru 'airing cupboard', ond ddim fel arall. Rown i'n hapus iawn i glywed yr un siaradwr yn dweud mwn ar ddiwedd brawddeg hefyd.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home