Caeffynnon, Llanfair
Ai Tredelyn ei hun a welwyd yn Nghaffi'r Mecca gyda'i gyfaill ba ddiwrnod? Yn aros efallai am fws Roy Brown i'w gyrchu nôl i wareiddiad Bro Hyfaidd? Jest yn gofyn. Syllais i fyw ei lygaid, ond . . . . dim. Tybed a lonnwyd ei galon i weld car FO (ac nid Foreign Office) yn ymddangos yn y gyfres newydd o Spooks?
Y gystrawen yn mynd i gyfeiriadau diddorol:
Clywyd pysewnoth gan frodor o'r Parsel ddoe. Da gweld arwyddion swyddogol ffor' hyn fod Torri Sietyn ar waith. O'r Saesneg setting, nid fel y mae rhai yn honni, o shooting neu shut-in.
Mae Cymdeithas Canolfan Dafydd ap Gwilym yn cynnal darlith gan yr Athro Dafydd Johnston ar 21 Hydref, 2010 am 7.30 yng Nghapel Horeb, Penrhyn-coch. Manylion cyswllt: Dr Tedi Millward, 44 Ger-y-llan, Penrhyn-coch. Dafydd a oedd yn gyfrifol am arwain tim o ysgolheigion ifainc (gan gynnwys Dr Huw Meirion Edwards, Llandre) i roi ynghyd golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hynny ar y we (www.dafyddapgwilym.net) gyda chyfrol hefyd a lansiwyd yn Steddfod Blaenau Gwent a'r Cymoedd, Awst 2010. Gobeithio y daw rhywbeth o'r Ganolfan arfaethedig i goffáu ein bardd lleol.
Fy hoff lais yn y byd ar hyn o bryd yw'r swynol Neil MacGregor, Pennaeth yr Amgueddfa Brydeinig, sy'n cyflwyno Hanes y Byd drwy Gant o Wrthrychau. Jest mor wych ym mhob ffordd. Fe ei hun sydd wedi ysgrifennu'r cwbl, ac mae hynny i'w glywed yn ei gyflwyniad di-feth. Y rhaglen am yr eleffantod Kakiemon borselan oedd yr orau hyd yma, gyda disgynnydd y gwneuthurwr yn Siapan a Miranda Rock, disgynnydd y meilord o Loegr, John Iarll Caer-wysg, a'i prynodd yn ôl yn y 17g. Cwbl gyfareddol. Update: newydd glywed ei fod wedi cael yr O.M. Da iawn a haeddiannol -- diolch am synnwyr.