O'r Parsel Canol

Thursday 14 January 2010

Dillad babi; 'retro car coat' o batrwm Sublime


dillad babi/retro car coat, originally uploaded by Gwenddolen.

Llafur cariad caled dros ben i wneud cot fach retro (lliw uwd) ar gyfer Toby, un o'r cefnderwyr bach. Mae Cynthia, perchennog siop edau Clare's yn Aberystwyth (www.clarewools.co.uk)yn byw yn y Parsel, ac mae hi'n adnabyddus fel un hael iawn ei chymwynas pan fydd y gwau wedi mynd yn drech na dyn. 'Wrth fysgu y mae dysgu,' meddai'r hen air am dreialon y grefft astrus hon. Cymaint yn haws yw gweld rhywun deheuig fel Cynthia yn dangos sut yn union y mae troi hosan, neu godi pwythau.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home