ci hela
Yn hoffi'r ci hwn yn fawr iawn — brodwaith o'r 15-16 ganrif.
Heddiw bûm yn sylwi ar bethau'n dod bob yn ddau . . . . dau yn y cwrdd y prynhawn yma a'r ddau yn dwyn enwau afonydd a nentydd yn ardal Llanwrtyd (Irfon a Cledan). Trwy ryw gawlach yn rhywle roedd dau wedi troi i fyny i gymryd y gwasanaeth, sef Lona Gwilym o Benrhyn-coch (darllenwraig leyg gyda'r Eglwys yng Nghymru), a'r Parchedig Irfon Evans, Comins Coch. Dau 'goch' yn fanna. Dwy alwad ffôn cyn swper, a dwy ers hynny. Dau gar yn fy ngoddiweddyd pan oeddwn ar gefn y beic ar y ffordd i'r capel; a dau gar ar y ffordd yn ôl. Ddoe roedd cwn hela Cymreig, rhai garw iawn yr olwg yn cwrso cwningod yng Nghoed Gwmryn — wedi dod o Bontrhydfendigaid, meddai rhywun.
Mewn gwlad ac oes arall slawer dydd pan oeddwn yn astudio anthropoleg cymdeithasol, gwelais Claude Lévi-Strauss yn darlithio yn Rhydychen. Roeddwn wedi teithio yno ym mis Tachwedd 1970 gyda llond bws o fyfyrwyr i weld y dyn ei hun yn traddodi Darlith Frazer ar 'Myth and Ritual' yn y Sheldonian. Drwy wyrth y gwifrau, mae modd gwrando eto ar y ddarlith honno : ewch i http://huffduffer.com/RobertsonCrusoe/5450
Arddangosfa dda iawn o ffotograffau Paul White o hen adfeilion (gan gynnwys y llun uchod o Neuadd, Cil-y-cwm, etc.) ymlaen ar hyn o bryd tan Tachwedd 21 yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth. Mae cannoedd o'i luniau hefyd i'w gweld ar flickr, gan gynnwys y ddau hyn.
Mae'r amgueddfa yn lle da am anrhegion o bob math — breichledau a mwclysys o gerrig gleision rhesymol iawn eu pris; calendars gyda lluniau o longau; a gemau, llyfrau a chardiau o bob math. Mae Gwenllian Beynon a Stuart Evans yn bobl mor dalentog, ac mae Aberystwyth mor ffodus i gael amgueddfa mor wirioneddol wych. Mae Stuart yn sôn am ei waith diweddaraf (fel Cadair Maelgwn) yn y rhifyn cyfredol o Planet, lle mae dialog rhyngddo ef a'r bardd lleol Elin ap Hywel. Hyn i gyd-fynd ag arddangosfa o waith Stuart yn y Llyfrgell Genedlaethol — ymlaen yno tan 20 Tachwedd.