O'r Parsel Canol

Tuesday 20 January 2015

Cynhadledd Syr John Rhys

Rwy'n marcio papurau arholiad ac yn llawn annwyd. Ond mae pethau eraill ar y gweill hefyd, ac un o'r rheini yw'r gynhadledd (y gyntaf o ddwy) i gofio am Syr John Rhys, Ponterwyd, Rhos-y-bol a Rhydychen. Gan fod Rhys wedi gadael ei lyfrau i Goleg Prifysgol Aberystwyth (fel yr oedd e y pryd hynny), a gadael ei bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, mae gan y ddau sefydliad ddiddordeb yng nghanmlwyddiant ei farw, ac yn ei waddol hollt. Yn un peth, dyma ffordd o symud ymlaen tuag at y rhaglen ddigido sy'n mynd i agor y casgliadau hyn lan i'r cyhoedd. Ac yn ail, wrth gwrs, dyma un o feibion enwocaf Ceredigion, un a aeth o dyddyn mynyddig Aberceirio Fach i uwchgynteddau Coleg Iesu heb anghofio'r graig y naddwyd ef ohoni (ymadrodd sy'n briodol i un a ffolai ar arysgrifau cerrig).

Fel curtain-raiser i'r gynhadledd gyntaf, bydd Dr Russell Davies, sydd newydd ymddeol o Brifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Rhys a'i amserau mewn darlith agored yn Hen Neuadd yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Hyn ar Nos Wener 20 Chwefror.  Dylai fod yn achlysur arbennig, ac mae sôn y bydd S4C yn taro heibio.

Wedyn fore trannoeth, am 10.00, bydd sesiynau gan staff y ddwy Lyfrgell. I ddechrau, Elgan Davies, Curadur y Casgliadau Arbennig yn Llyfrgell y Brifysgol, yna bydd Dr Maredudd ap Huw a Nia Mai Daniel yn egluro hyd a lled a natur y casgliadau cyfoethog sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dr Alexander (Sasha) Falileyev gynt o'r Adran Gymraeg yn Aberystwyth, ac yn wreiddiol o St Petersburg, fydd yn siarad nesaf, gan fynd â ni i'r Eidal yn ôl traed Rhys ei hun. Mynd yno i weld cerrig ac arysgrifau arnynt a wnaeth Rhys, ac o nabod Sasha, bydd ganddo luniau ysblennydd i ddod â thaith Rhys yn fyw — ac i gynhesu tipyn arnom ym mis Chwefror.

Nid yw'n gyffredinol hybsys fod yr artist Mary Lloyd Jones o'r un cyff â John Rhys, ond mae hi'n perthyn yn go agos drwy ei mam, ac mae'n rhyfedd iawn sut y mae ei diddordebau mewn hynafiaethau, henebion, llên-gwerin, mytholeg, a 'hen ieithoedd anghofiedig dynol-ryw' yn debyg i rai Rhys ei hun. Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, mae Mary wedi gwneud mwy  o waith haenog gan ddefnyddio asitêt ac adeiladu trwch o ddeunydd o wahanol ffynonellau a chyfnodau. Un o'i harddangosfeydd mwyaf poblogaidd oedd Iaith Gyntaf, ac fe gawsom ganiatâd i ddefnyddio un o'r gyfres honno yn ein deunydd hysbysebu. Bydd cyfle inni glywed peth o hanes Mary, a mwy am y dylanwadau arni fel artist. Mae Lona Mason hithau'n mynd i drafod celf, y tro hwn y portreadau gwahanol sydd o Rhys. Ni welais erioed lun ohono'n wr ifanc, felly rwy'n edrych mlaen i weld beth sydd gan Lona i'w ddangos inni. Dyma lun Christopher Williams (sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol) a baentiwyd ddwy flynedd cyn marwolaeth Rhys.



Yn 1874, yn yr adeilad hwn, sef yr Hen Goleg, y traddododd Rhys ei Lectures on Welsh Philology a gyhoeddwyd yn 1877. Bydd Dr Simon Rodway o'r Adran Gymraeg yn egluro pwysigrwydd y gwaith ac yn holi i ba raddau y mae'r gwaith yn dal yn safonol. Roedd Simon ar Raglen Dei Tomos Nos Sul, yn sôn yn ddifyr iawn am y bardd Celtaidd. Podlediad ar gael yma.  Un arall o'r un tim adrannol fydd wrthi wedyn, sef Dr Richard Glyn Roberts, cyd-olygydd Pa Beth yr Aethoch allan i'w Achub, ac yn fwy diweddar, Diarhebion Llyfr Coch Hergest sydd bron â gwerthu allan, meddan nhw. Bydd Richard yn edrych ar ohebwyr Rhys ar draws Ewrop. Un fydd yno, siwr o fod, fydd Louis Lucien Bonaparte (a anwyd yn Grimley, Swydd Gaerwrangon o bobman!) a oedd yn ieithgi o'r un anian ag ef.


I gloi'r prynhawn,  bydd yr hanesydd pensaerniaeth, Richard Suggett o'r Comisiwn Henebion, yn sôn am sut y daeth Rhys yn un o'r comisiynwyr cynta, ac am ei waith yn diogelu henebion Cymru. Bydd byrddau arddangos gan y Comisiwn yn cael eu gosod yn yr Hen Goleg i gyd-fynd â'r gynhadledd gyntaf hon. Bydd ail gynhadledd ym mis Rhagfyr a fydd yn cyd-fynd â chanmlwyddiant marw Rhys. Cynhelir honno yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dylai'r cwbl ym mis Chwefror fod yn gyfle i ddysgu ac i fwynhau diwrnod amrywiol a difyr. Mae croeso cynnes iawn i bawb o bob oed, ac fe fydd cyfieithu ar y pryd hefyd. £10 yw'r tâl, ond £5 i fyfyrwyr.

Saturday 13 September 2014

Dwy brifddinas

Wedi dychwelyd o wyliau yn Fiena a Ljubljana — popeth yn dda ar wahân i'r tywydd gwlyb. Wedi profi airbnb am y tro cyntaf, a chael lle hyfryd mewn hen adeilad yn yr ardal Iddewig jest i'r gogledd o'r Donaukanal ac yn agos i'r Karmelitenmarkt. Y ddinas fel petai mewn trymgwsg yr adeg hon o'r flwyddyn heb ddim cerddoriaeth gwerth sôn amdani na dim ymlaen yn gyffredinol. Mae'n syndod pa mor tacky yw'r ardal o gwmpas y Dom erbyn hyn, a dyw'r cerrig sydd wedi'u gosod ar hyd y Graben ddim yn ddeniadol o gwbl. Wedi moesymgrymu eto yn y llefydd arferol — y Berggasse (Freud), hen gartref yr Efrussi (Hare with the Amber Eyes),  Museum Leopold, Heiligenstadt, etc. ond heb deimlo'r un wefr ag yn y blynyddoedd a fu. Ljubljana'n fwy ffres, yn fwy diymhongar, yn iau. Mae chwarter y boblogaeth yma yn y brifysgol, meddan nhw. . . .  dyna pam, felly.

Saturday 28 June 2014

Erwyd Howells eto

Cyfle eto i weld O'r Galon, am Erwyd Howells —un o'r rhaglenni gorau mewn cyfres ragorol. Ar CLIC yma

Friday 27 June 2014

Noson dawel yn y Parsel

.
Y da yn mwynhau awr neu ddwy o hindda cyn i'r glaw ddod

Sunday 25 May 2014

Helynt Cadair y Gymraeg yn Aberystwyth

Rhaglen ragorol Dei Tomos yn dal i blesio'n arw, yn enwedig  y tro diwethaf pan oedd tri chyfaill  ymlaen. Hen gyfaill annwyl imi o ganol y saithdegau, sef Annes Glynn, oedd y cyntaf ohonynt, a hithau newydd ddechrau ar ei gwaith fel archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Môn. Bleddyn Owen Huws, wedyn, yn traethu'n ddifyr odiaeth am T.H. Parry-Williams — am ei annus mirabilis pan fu'n astudio gwyddoniaeth, ac am yr helynt yng Ngholeg Aberystwyth pan fu bron y dim i'r milwr glew, Timothy Lewis, gipio'r Gadair Gymraeg ar draul y gwrthwynebydd cydwybodol, THP-W. Bydd Bleddyn yn annerch y  Cymmrodorion ar y pwnc hwn yn Llundain ar 4 Mehefin, os byddwch yn y cyffiniau. Ac os byddwch yn nes adref, yn Aberystwyth, cerwch ar hyd Ffordd y Gogledd i weld hen gartref THP-W, Y Wern, sydd nawr ar werth. Ty commodious yn llygad yr haul, meddir, 'well worthy of inspection', yn mynd am tua £315,000. Pwy na fyddai'n hoffi cael y feibs o fyw yno?  Diarmuid Johnson, yr ieithydd a'r cerddor a'r ysgolhaig oedd y trydydd gwestai ar y rhaglen.  Roedd lleisiau'r tri'n arbennig o swynol, a Dei yn ôl ei arfer yn gwneud i bawb deimlo'n gartrefol.  Cyn bo hir, bydd Dr Lowri Haf Morgans ymlaen yn trafod 'iaith y corff' mewn testunau canoloesol Cymraeg.

Mi gollais gyngerdd Diarmuid a Bruce Cardwell neithiwr yng Nglan Tren ger Llanybydder (cartref Lynne Denman y gantores/cyfarwydd, a Lewys Glyn Cothi hefyd 'slawer dydd: roedd ei gywyddau ef ar y rhaglen). Nogiodd fy nghar — y brêcs yn benodol — rhwng Nebo a Thal-y-sarn, a bu'n rhaid imi droi nôl a chloffi adref 20 m.p.h. Roedd yr olwynion blaen yn chwilboeth pan gyrhaeddais y ty, a rhyw wynt llosgi . . . . trip i'r garej Ddydd Mawrth, rwy'n ofni.

Bu rhagor o helynt cadeiriol ar droed mewn adran arall yng ngholeg Aberystwyth ddiwedd yr wythnos diwethaf, gyda sôn bod Athro wedi cael ei hel yn ddisymwth oddi yno . . . .


Tuesday 11 February 2014

Yr amryddawn Mary Burdett a'i chymydog cynhyrchiol Bobi/R.M. Jones

Ar drywydd ei hen, hen, hen dad-cu, yr arlunydd Abraham Cooper, y bu Mary Burdett-Jones, yn ôl adroddiad Caroline Palmer sy'n cynnal blog achlysurol lled ddifyr. Mae deunydd newydd sbon wedi'i osod ar wefan Bobi Jones a fydd o ddiddordeb hefyd i rai — ei gyfrol, Awdur y Beibl, ynghyd â Bratiau Budron 4 (parhad o gyfrol o gerddi -- beth ddaeth drosto i ddewis y fath deitl?), ac adolygiad ar gyfrol ddiweddaraf Dewi Stephen Jones Ffynhonnau Unig. Sut  mae cymaint o egni creadigol tua Llangawsai, gwedwch? A gweddill Heol Llanbadarn o ran hynny. . . .  ac i mewn i Heol Caradog a Choedlan Iorwerth a Ffordd Ddewi.

Wednesday 11 December 2013

Adlewyrchiad - Yr Hen Goleg, Aberystwyth

Monday 9 December 2013

Martell ym Mharis: daliwch y rhaglen

Rhaglen atmosfferig o Baris. Owen Martell (a gyfansoddodd ei nofel gyntaf yn Aberystwyth yng nghwrs sgrifennu creadigol John Rowlands), Sioned Puw Rowlands (yr un cyff) a Jon Gower wedi cyfuno'n berffaith i greu rhifyn nodedig o Pethe. Daliwch hi os na welsoch chi hi. Cyfle i glywed Owen yn darllen o'r fersiwn Ffrangeg o'i nofel ddiweddar am Bob Evans (Intermission/ Intermède) ac yn trafod ei waith. Nifer o arwyddion gwyrdd y siopau fferyllydd y mae mor hoff ohonynt. . . . a sirens yn adleisio Sanctus Fauré . . . .

Sunday 8 December 2013


Hen Goleg yn y galon

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Rhisiart Hincks yn cofnodi adeiladau hanesyddol Cymru, a llefydd o ddiddordeb llenyddol hefyd.  A'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gorfodi i symud i adeilad Hugh Owen ar y campws gan adael yr Hen Goleg ger y lli, dyma albwm o luniau sy'n dangos y trysor a gollwyd drwy orfodi'r newid hwn. Ceir yma hefyd gwpledi trawiadol i gyd-fynd â'r lluniau. Mae'r cyn-fyfyriwr Llion Jones a wnaeth ei BA a'i PhD yn yr Adran wedi mynegi'r golled yn well na neb: 
Yr oedd adwy breuddwydion yno i ni 
      a nawdd i obeithion; 
  hen goleg yn y galon, 
  hen gariad oes ger y don.

Saturday 7 December 2013

Awgrymodd y Brawd Dafydd John y dylwn ailgydio yn fy nghwilsen, ac efallai'n wir y daeth yn bryd imi wneud hynny. Daeth neges debyg o anogaeth gan yr hen goes 'Cunedda' a fu'n dychmygu bod y gwyntoedd croes o gyfeiriad Pen-glais wedi diffodd y tafodau tân ffor' hyn yn y Parsel. Ond nid felly, er bod sôn drwy'r fro achlân am y creaduriaid yn erthylu, am laeth yn ceulo'n waed, am ladd a boddi o Eleri hyd Chwilfynydd a'r cyfan yn ganmil gwaeth na'r hud ar Ddyfed slawer dydd. Ble mae dechrau arni gwedwch?  Ar ôl saib mor hir? Wel beth am ganmol o'r newydd raglenni Dei Tomos a'r graen eithriadol sydd ar bob dim a wna ar y radio. Clywais gyfweliad campus gyda Ceridwen Lloyd-Morgan yn sôn am Brenda Chamberlain, am y berthynas rhwng toriadau pren y Caseg Press a Llyfr Mawr y Plant, ac am y ffordd y mae ambell un o'i cherddi'n adleisio rhigymau ardal Bangor a'r cyffiniau. Marciau llawn am ddarlledu difyr. Un arall fydd i'w glywed gyda Dei cyn bo hir yw Richard Glyn Roberts, sydd newydd gyhoeddi Diarhebion Llyfr Coch Hergest, deunydd nas argraffwyd yn iawn cyn hyn. 'Diriaid a gaiff ddraen yn ei uwd', 'Gwell dwylaw'r cigydd na dwylaw'r sebonydd', 'Gwell penloyn yn llaw no hwyad yn awyr', a channoedd o ddoethinebau cyffelyb.  'Ny bydd ddoeth ny ddarlleo'. Ie wir.

Wednesday 15 August 2012

O glafdy'r Parsel

Och a gwae wedi pythefnos ar fy nghefn — nid yn joio'r haul, gwaetha'r modd, ond yn dioddef yn enbyd gan adwaith ffyrnig iawn i foddion gwrthfiotig. Nid yw'r manylion yn ffit i'w cyhoeddi yma. Felly o hirbell, megis, y daeth newyddion y Steddfod drwy'r cyfrifiadur atom yma — man lle nad oes modd derbyn  teledu byw. Mor delirious oeddwn ar y Dydd Llun fel 'mod i'n argyhoeddedig mai Anni Llyn oedd wedi mynd â'r Goron. Mawr iawn oedd y llawenydd o ddeall o'r diwedd mai Gwyneth Lewis, seren y genedl, a aethai â hi, union 20 mlynedd ar ôl iddi gael ei phipo i'r postyn gan  . . . . wel, neb llai na Cyril Jones, un o'r triawd moel/penllwyd a oedd wrthi'n beirniadu eleni. Gyda llaw, anodd gweld pam y mae rhywun yn mynnu ei alw ei hun yn Cen.

Clywais si o'r Penrhyn-coch nad oedd y Cyngor Llyfrau yn rhy bles gyda'u hen fos am atal y Fedal Ryddiaith eleni, a cholli'r cyfle i hybu gwerthiant wn i ddim faint o gopïau o'r nofel fuddugol. Ond siawns fod mwy o fynd fyth o'r herwydd ar nofel Robat Gruffudd, Afallon — nofel dda iawn, a digon o swmp ynddi.

Pwl gwaeth o salwch Ddydd Gwener. Un peth a droes fy stumog, rhaid dweud, oedd yr appoggiatura ddi-chwaeth ar ddiwedd Gweddi'r Orsedd. Hyn mewn dwylo da (Adèle), ac yn y lle iawn (nid yn Seremoni'r Cadeirio) yn gallu bod yn knockout. Rwy'n prysuro i ddweud 'mod i'n llawn edmygedd o Caryl ym mhob ffordd arall — ein Joyce Grenfell ni, a'r gallu anhygoel yna i ddynwared.

Drwy ddirgel ffyrdd, ac er gwaethaf y Moscow Rules, des i wybod pwy oedd fy neg milfed ymwelydd â'r blog. Mae'r pensaer lleol — canys dyna pwy ydyw, ac nid yr un amlwg ond yr un galluog — eisoes wedi casglu ei wobr. Mae'r 12,000fed ymweliad yn prysur agosáu, pan fydd cyfle eto i rywun ffodus ennill gwobr annisgwyl.

Thursday 2 August 2012

Gair y mis: lobsgows neu lob-sgows?

O'r Saesneg y daw hyn, meddai Geiriadur Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Efallai fod bodolaeth No. lapskaus (cawl a wneir â chig) a ffurfiau tebyg yn yr ieithoedd Sgandinafaidd eraill,  ac Almaeneg trefi Hansa y gogledd, yn awgrymu mai benthyciad i'r Saesneg o un o'r ieithoedd Germanaidd yw lobsgows. Ond mae eraill wedi dweud mai  gair Saesneg ydyw (lob's course), ac eraill yn bleidiol i darddiad o'r Latfeg Labs kausis, 'powlennaid boeth' neu Lithwaneg labas káuszas. Llawer o anawsterau fan hyn gyda morwyr yn teithio'n bell. Yr enghraifft gyntaf yn y Gymraeg 1869, a'r un gyntaf yn Saesneg yw 1706. Dyw hyn ddim yn air yn fy nhafodiaith i, ond rwy'n meddwl mai 'aceniad pêl-droed' sydd yma, a bod angen cysylltnod. A allai gogleddwr caredig fy ngoleuo ar hyn?

Saturday 28 July 2012

Yous dal yn llanast

Dros flwyddyn yn ddiweddarach, a'r un broblem yn dal yno:
Ac er bod Daniel Huws a Ted Hughes yn ddau gyfaill triw, nid oes esgus dros ddodi llun o Ted Hughes i gyd-fynd â chofnod Daniel Huws yn Rhestr Gyfredol o Awduron yr Academi Gymreig. Mae eisiau tipyn o sbriws ar safle Llenyddiaeth Cymru.org yn gyffredinol. Ac mae'r logo'n wirion (fel LOL).

Monday 16 July 2012

blog newydd addawol fan hyn

Blog newydd gan rywun addawol iawn o Poznan, Gwlad Pwyl, sydd wedi cartrefu yma yng Nghymru. Mae'n dda gweld cynifer o bobl ifainc frwd a gwâr o wledydd Ewrop (a thu hwnt) yng Ngheredigion.

Saturday 14 July 2012

Girton amdani

Neis gweld dau Girtonian, sef  Jon Gower a Gwyneth Lewis, yn y newyddion am eu campau creadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn .  . . .  Yay Emily Davies! Un arall, sef Morfydd E. Owen, oedd y cyntaf i ddisgrifio Boston 5, y llawysgrif Cyfraith Hywel Dda sydd newydd ei phrynu i'r genedl.

Tuesday 10 July 2012

Uffern yn Swydd Henffordd

Darn diddorol gan E.V. Knox ar y radio ba noson (Poetry Please ar Radio 4 gyda Roger McGough). A fyddai un o selogion y Parsel yn hoffi cael shot ar gyfieithu hyn, tybed? Gwobr fach i'r enillydd. Rhywbeth mawr o'i le ar odl y cwpled olaf, gyda llaw.

Hell in Herefordshire
The wild white rose is cankered along the vale of Lugg;
There is poison in the tankard; there is murder in the mug.
Through all the pleasant valley where stand the pale-faced kine,
Men raise the Devil's chalice and drink this bitter wine.
Unspeakable carouses that shame the summer sky
Take place in little houses that look towards the Wye.
And near the Radnor border and the dark hills of Wales,
Beelzebub is warder, and sorcery prevails.
For, spite of Church and chapel, ungodly folk there be
Who pluck the cider apple from the cider apple tree,
And squeeze it in their presses until the juice runs out,
At various addresses that no-one knows about.
And, maddened by the orgies of that ungodly brew,
They slit each others' gorges from one a.m. till two,
Till Ledbury is in shambles, and in the dirt and mud
Where Leominster sits and gambles, the dice are stained with blood.
But still, if strength suffices, before the day is done,
I'll go and share the vices of Clungunford and Clun
But watch the red sun sinking across the March again,
And join the secret drinking of outlaws at Presteigne.

y cynnig cyntaf wedi dod i law yn barod!  


Uffern yn Swydd Henffordd
Dreng yw’r rhosod rheiol yn nyffryn Llugwy ban:
Ceir gwenwyn yn y ffiol a yfir ar ei glan.
Ar draws yr henfro hyfryd lle pora’r gwartheg mwyn,
Codir y caregl dieflig i ddrachtio’r chwerw win.
Ac yn y teios bychain ar lan hen afon Gwy
Cynhelir gwyllt gyfeddach sy’n warth ar bob rhyw blwy’.
Draw, draw tua’r gororau a bryniau Cambria wen,
Y Gŵr Drwg sy’n teyrnasu, a melltith mwy yn ben.
Er gwaethaf llan a chapel, ceir annuwiolion lu
Sy’n plicio’r ’falau seidr o goed y berllan gu,
A’u gwasgu yn y dirgel nes tynnu’r nodd a’r sudd
Tu ôl i’r drws caeedig ar lawer aelwyd gudd.
Ac o dan erch ddylanwad y trwyth cythreulig, crach,
Rhwygant yddfau’i gilydd hyd oriau’r bore bach.
Mae Ledbri’n llwyr golledig, ei glendid hi dan draed,
A Llanllieni’n chwarae hap â dis sy’n goch gan waed.
Ond eto, cyn cael clwydo, os byddaf fyw ac iach,
Mi fentraf ymdrythyllu ar dor Colunwy fach
A gwylio eto’r machlud dros fannau Cymru lân
Yng nghwmni gwyllt ddiotwyr Llanandras, mawr a mân.

Boston Legal: y rhif newydd

Bydd yr hen lawysgrif Boston 5 bellach yn dwyn y rhif LlGC llsgr. 24029A — rhag ofn eich bod yn mofyn gofyn amdani.  Bydd y cognoscenti yn dal i'w galw'n Bost, yn ôl Paul Russell, o Seminar Cyfraith Hywel.  

Boston Legal II. Yay! I'r genedl!

Gwych gweld mai'r Llyfrgell Genedlaethol sydd wedi prynu'r llawysgrif hon o Massachusetts (gynt o Aberhonddu). Da iawn, iawn.

O.N.
 Dyma Dr Bolton o gwmni Sotheby yn egluro gwerth a phwysigrwydd y llawysgrif. Ni allaf gytuno ag ef fod Cyfraith y Gwragedd yn 'progressive', fodd bynnag, er bod ysgariad yn bosibl. Dyma un o'r pethau mae pob hanesydd teledu, pob Huw Edwards, yn ei ddweud. Ond roedd ‘gwerth’ merch yn y llyfrau cyfraith  yn hanner gwerth bachgen. Nid oedd merched yn cael eu hystyried yn gymwys fel arfer i werthu ac i brynu nac i fod yn dystion. Nid yw’n syndod fod yr hanesydd Wendy Davies wedi dweud, ‘[women] are virtually legal non-entities’.

Monday 9 July 2012

Gwersi o Iwerddon

Yr Hen Lyn Adda yn croniclo'n ofalus Niedergang Prifysgol Cymru yn ei lith Drwy Ofer Esgeulustod: Brad a Dinistr Prifysgol Cymru. Byddai o ddiddordeb efallai iddo ddarllen un ymateb i'r datblygiadau diweddaraf ym mhrifysgolion Iwerddon.