Gair y mis: lobsgows neu lob-sgows?
O'r Saesneg y daw hyn, meddai Geiriadur Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Efallai fod bodolaeth No. lapskaus (cawl a wneir â chig) a ffurfiau tebyg yn yr ieithoedd Sgandinafaidd eraill, ac Almaeneg trefi Hansa y gogledd, yn awgrymu mai benthyciad i'r Saesneg o un o'r ieithoedd Germanaidd yw lobsgows. Ond mae eraill wedi dweud mai gair Saesneg ydyw (lob's course), ac eraill yn bleidiol i darddiad o'r Latfeg Labs kausis, 'powlennaid boeth' neu Lithwaneg labas káuszas. Llawer o anawsterau fan hyn gyda morwyr yn teithio'n bell. Yr enghraifft gyntaf yn y Gymraeg 1869, a'r un gyntaf yn Saesneg yw 1706. Dyw hyn ddim yn air yn fy nhafodiaith i, ond rwy'n meddwl mai 'aceniad pêl-droed' sydd yma, a bod angen cysylltnod. A allai gogleddwr caredig fy ngoleuo ar hyn?

4 Comments:
Mae'n air byw iawn yma ym Môn, ac yn hollbwysig i ni Fonwysion. (Dwn i ddim beth yw'r sefyllfa dros y dŵr, wedyn - roeddwn i'n meddwl mai rhywbeth Sir Fôn oedd lobsgows.)
Ond faswn i byth yn rhoi cysylltnod ynddo, a dwi'n ei ynganu gyda'r acen drom ar 'sgow' (o...yn arferol!)
Does dim 'e' hir yn y sill cyntaf, gyda llaw.
Diolch, Fonwysyn. Fyddwn innau ddim yn sgrifennu cysylltnod chwaith, ond meddwl mewn gwirionedd y dylai un fod yno os nad ar lob- y mae prif acen y gair.
Wel, ia, wedi meddwl ar lob- y dylai'r acen fod yndê? Does dim acen drom mewn gwirionedd yn y gair - does dim hongian ar y -sgows na dim felly; mae o'n debycach i ddau air unsill yn cael eu dweud yn agos iawn iawn at ei gilydd. (Os yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl...) A byddai hynny'n cefnogi'r cysylltnod, wrth gwrs.
Meddwl i, mae hyn yn adlewyrchu tarddiad y gair - nid gair Cymraeg mohono, o leiaf nid yn wreiddiol.
Dwi'n amau hefyd - dwi'n siŵr i mi ddarllen hyn yn rhywle - mai lobsgows gogledd Cymru yw tarddiad yr enw Scouse, Scouser: hynny yw, nid benthyciad o'r un iaith wreiddiol (Sgandinafaidd neu beth bynnag) oedd hyn, ond rhywbeth aeth efo pobl gogledd Cymru i Lerpwl. Mae gan bobl Lerpwl gawl y mae nhw'n ei alw yn 'Scouse' hefyd.
Fe fyddaf wrth fy modd yn mynd i'r Ll.Gen a gweld 'Cawl y Dydd - Soup of the Day' gyda 'cawl' wedi ei ychwanegu! Yn aml, mi hoffwn estyn am y sialc ac ychwanegu 'neu lobsgows i ni'!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
Links to this post:
Create a Link
<< Home