Tua Phengwmryn NEU Rhew ac Eira yn y Parsel Canol
Y cardiau i gyd wedi'u hanfon erbyn hyn, ond dyma demtasiwn i anfon ail garden at rai pobl -- e-gardiau sy'n chwarae cerddoriaeth tra bo doler US yn cael ei roi gan gwmni Fidelity i brynu offerynnau cerdd i blant ysgol.
Mewn cwmni o academyddion yn Aberystwyth yn ddiweddar a llond y lle o bobl ifanc/canol oed talentog, creadigol, egniol, hyfryd ym mhob ffordd. Cyn-fyfyrwyr o Brifysgolion Harvard (1), Rhydychen (2), Caer-grawnt (6), Aberystwyth (8). Mwy na'u hanner wedi dysgu Cymraeg fel oedolion, ac erbyn hyn ni fyddent yn breuddwydio siarad Saesneg gyda'u cymrodyr o Loegr. Cymraeg yn fath o Ladin i nifer ohonynt, yn iaith gwaith, ac yn iaith cyfathrebu gyda phobl debyg iddyn nhw eu hunain. Mae'r Brahminiaid hyn, gan gynnwys yr 'electives' a ddaeth atom, yn gwybod llawer mwy am iaith a llên a hanes Cymru na gweddill y wlad gyda'i gilydd. Eu harwyr: Gwyneth Lewis (nid Menna Elfyn); Jim Perrin ( nid Iolo Williams); T.H. Parry-Williams (nid Williams Parry); M. Wynn Thomas (nid Hywel Teifi Edwards); Angharad Price (nid Caryl Lewis); Catrin Finch (nid Siân James); Mary Lloyd Jones (nid Aneirin Jones). Eu hoffderau: rhyw ynys oer yn rhywle (nid Môr y Canoldir); Howies neu Toast (nid Per Una na net-a-porter); mêl lleol (nid jam); Perl Wen a Llangloffan (nid Caerffili); Llandeilo; Llandudno; Portmeirion; Hafod; Prâg; Efrog Newydd; Hyderabad; gwelyau plu; Ultracomida; Walker and König. Eu casbethau: canu plygain; fascinators; Radio Cymru yn ei grynswth; Bae Caerdydd; ffenestri UPVC.
Darlithwraig yn Adran Theatr, Ffilm, a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill y wobr am steil yn ddiweddar. Yn serennu yn un o'r gwasgodau pert hyn o Felin Tre-gwynt, gyda choler Peter Pan a llewys cwta yn y patrwm Roundcross, ac yn edrych yn hynod comme il faut. Kate yn ddoeth iawn i ddewis un lliw plaen (trwser a siwmper denau) o dan y siaced fraith, yn wahanol i'r rhai sy'n modelu YMA ar safle Melin Tre-gwynt.