O'r Parsel Canol
Wednesday, 11 December 2013
Monday, 9 December 2013
Martell ym Mharis: daliwch y rhaglen
Rhaglen atmosfferig o Baris. Owen Martell (a gyfansoddodd ei nofel gyntaf yn Aberystwyth yng nghwrs sgrifennu creadigol John Rowlands), Sioned Puw Rowlands (yr un cyff) a Jon Gower wedi cyfuno'n berffaith i greu rhifyn nodedig o Pethe. Daliwch hi os na welsoch chi hi. Cyfle i glywed Owen yn darllen o'r fersiwn Ffrangeg o'i nofel ddiweddar am Bob Evans (Intermission/ Intermède) ac yn trafod ei waith. Nifer o arwyddion gwyrdd y siopau fferyllydd y mae mor hoff ohonynt. . . . a sirens yn adleisio Sanctus Fauré . . . .
Sunday, 8 December 2013
Hen Goleg yn y galon
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Rhisiart Hincks yn cofnodi adeiladau hanesyddol Cymru, a llefydd o ddiddordeb llenyddol hefyd. A'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gorfodi i symud i adeilad Hugh Owen ar y campws gan adael yr Hen Goleg ger y lli, dyma albwm o luniau sy'n dangos y trysor a gollwyd drwy orfodi'r newid hwn. Ceir yma hefyd gwpledi trawiadol i gyd-fynd â'r lluniau. Mae'r cyn-fyfyriwr Llion Jones a wnaeth ei BA a'i PhD yn yr Adran wedi mynegi'r golled yn well na neb:
Yr oedd adwy breuddwydion yno i ni
a nawdd i obeithion;
hen goleg yn y galon,
hen gariad oes ger y don.
Saturday, 7 December 2013
Awgrymodd y Brawd Dafydd John y dylwn ailgydio yn fy nghwilsen, ac efallai'n wir y daeth yn bryd imi wneud hynny. Daeth neges debyg o anogaeth gan yr hen goes 'Cunedda' a fu'n dychmygu bod y gwyntoedd croes o gyfeiriad Pen-glais wedi diffodd y tafodau tân ffor' hyn yn y Parsel. Ond nid felly, er bod sôn drwy'r fro achlân am y creaduriaid yn erthylu, am laeth yn ceulo'n waed, am ladd a boddi o Eleri hyd Chwilfynydd a'r cyfan yn ganmil gwaeth na'r hud ar Ddyfed slawer dydd. Ble mae dechrau arni gwedwch? Ar ôl saib mor hir? Wel beth am ganmol o'r newydd raglenni Dei Tomos a'r graen eithriadol sydd ar bob dim a wna ar y radio. Clywais gyfweliad campus gyda Ceridwen Lloyd-Morgan yn sôn am Brenda Chamberlain, am y berthynas rhwng toriadau pren y Caseg Press a Llyfr Mawr y Plant, ac am y ffordd y mae ambell un o'i cherddi'n adleisio rhigymau ardal Bangor a'r cyffiniau. Marciau llawn am ddarlledu difyr. Un arall fydd i'w glywed gyda Dei cyn bo hir yw Richard Glyn Roberts, sydd newydd gyhoeddi Diarhebion Llyfr Coch Hergest, deunydd nas argraffwyd yn iawn cyn hyn. 'Diriaid a gaiff ddraen yn ei uwd', 'Gwell dwylaw'r cigydd na dwylaw'r sebonydd', 'Gwell penloyn yn llaw no hwyad yn awyr', a channoedd o ddoethinebau cyffelyb. 'Ny bydd ddoeth ny ddarlleo'. Ie wir.