O'r Parsel Canol

Tuesday 5 June 2012

Deng mil o ymwelwyr wedi bod yma

Dros 10,000 o ymwelwyr dilys wedi bod yma ar y safle ers 2009 pan ddechreuais flogio — hynny ar ôl dod dros salwch go hir. Dewch â'ch sylwadau!

6 Comments:

Anonymous UN O'R DRE said...

Des i ar draws y blog tua pythefnos yn ol. Efallai mai fi oedd y deng milfed ymwelydd. Oes ‘na wobr?

Erbyn hyn dwi wedi darllen yr holl stwff nol i 2009. Dyma un o'r blogiau mwyaf diddorol dwi wedi ffeindio. Dwi’n dysgu rhywbeth ar bob ymweliad. Dalier ati.

Eto, erys un cwestiwn. Pwy yn y byd yw Gwenddolen? Dwi wedi holi un gafodd ‘i bacio yn y Parsel a does ‘da fe ddim cliw. Efallai y dylwn i holi rhywun o’r Adarn Gymraeg ond dwi’n nabod neb yn fanna.

17 June 2012 at 22:36  
Blogger Gwenddolen said...

Diolch yn fawr! Dylai fod gwobr i ti, ac mi fydd un yn aros amdanat erbyn prynhawn Mercher, 20 Mehefin, neu bryd bynnag y byddi di nesaf yng nghyffiniau'r Treehouse yn nhref Aberystwyth (y siop fwyd, nid y tlc). Nid oes gennyf unrhyw gysylltiad â staff na pherchnogion y lle ond tybiaf y bydd y trefniant hwn yn haws iti na cherdded bob cam allan i'r Parsel i gyrchu dy wobr. Bydd yn aros amdanat y tu ôl i'r cownter. Os nad un o dre' Aberystwyth wyt ti, rho wybod er mwyn imi wneud trefniadau eraill.

19 June 2012 at 14:39  
Anonymous UN O'R DRE said...

Rhy fusu i gyrraedd Treehouse heddi. Yfory te.
Hir yw pob ymaros.

20 June 2012 at 20:06  
Blogger Gwenddolen said...

Mae yno yn aros amdanat, mewn drâr rhwng y cownter caws a'r til. Adam sy'n gwybod amdano os bydd gofyn.

21 June 2012 at 09:42  
Anonymous UN O'R DRE said...

Wel! Wel! Ho Ho a Ha Ha Ha! . . . a diolch.
"Un o'r dre," gofynnodd Adam. "Un o'r dre" atebais innau. "Ma fe fel rhwbeth mas o nofel gan Le Carre," medde fe. Cytunais. A mas a mi a'r parsel yn dynn o dan fy nghesail.

Heno, mi fyddai'n darllen Y Ddraig, ond mae un dirgelwch yn parhau. . . . .

21 June 2012 at 18:21  
Blogger Gwenddolen said...

Moscow Rules

21 June 2012 at 21:47  

Post a Comment

<< Home