O'r Parsel Canol

Monday 18 June 2012

Boston Legal

Wow . . . . mae llawysgrif Boston 5, ym meddiant y Massachusetts Historical Society of Boston, yn mynd dan forthwyl Sotheby sy'n amcanu fod ei gwerth rhwng £500,000 a £7o0,000. Llawysgrif o ganol y 14 ganrif ydyw, yn cynnwys y fersiwn o Gyfraith Hywel Dda a elwir weithiau yn Ddull Blegywryd. Fe ddisgrifiwyd y llawysgrif flynyddoedd yn ôl gan Morfydd Owen yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (rhifyn 22, 1966-68). 
Gobeithio'n wir y bydd yn cael ei phrynu i'r genedl gan y Llyfrgell Genedlaethol er cof am ei darllenydd hynaf, yr Athro Dafydd Jenkins a fu farw'n ddiweddar yn 101 oed.




1 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Ydych chi wedi clywed mwy am bwy brynodd y llyfr yn y diwedd? Does dim mwy o wybodaeth ar wefan y BBC - gobeithio'n wir iddo ddychwelyd i Gymru ac nid i grombil llyfrgell breifat rhyw filiwnydd!

5 July 2012 at 14:07  

Post a Comment

<< Home