O'r Parsel Canol

Tuesday 19 June 2012

Aberystwyth yn lle diogel i fyfyrwyr

Llai o drais yn Aberystwyth (a Buckingham a Chaer Wair (Durham) nag ym mhrifysgolion eraill Gwledydd Prydain, meddai'r newyddion  heno.  Y rhai gwaethaf, meddir, yw  Llundain, Manceinion Metropolis, Leeds, Salford, Birmingham. Hyn yn profi heb unrhyw amheuaeth fod y Cymry'n wâr, a bod ethos Tacsi Mam-gu yn drech na'r hwliganiaid a'r rafins yn y parthau hyn. Pethau'n dawel hefyd tua Llambed a Chaerfyrddin dan broctoriaid Dewi Sant a'r Drindod.

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Da gwybod hynny. Hoffi'r ymadrodd "tacsi Mam-gu" hefyd!

5 July 2012 at 14:00  
Blogger Gwenddolen said...

Tacsi go-iawn yw hynny, un enwog yn y parthau hyn. Mae'n dwyn rhif personlaised hefyd, rwy'n meddwl.

8 July 2012 at 20:58  

Post a Comment

<< Home