O'r Parsel Canol

Sunday 23 January 2011

Gwarffynnon

Cymdogion newydd ddarganfod carreg fedd (a ailddefnyddiwyd fel carreg ddrws) ar eu tir. Ann Jenkins a fu farw 1847, yn 17 mlwydd oed, yn ferch i John ac Elizabeth Jenkins, Gwarffynnon. Braidd yn bell o'r Gwarffynnons niferus sydd ymhellach i'r de o'r Parsel Canol — yn Llanrhystud, Silian, Cilcennin, etc. Felly mae hyn yn dipyn o ddirgelwch. A oes rhywun yn gwybod mwy amdani, tybed?

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

yn y Cyfrifiad 1851 roedd John Jenkins (55), mwynwr plwm, ei wraig Elizabeth (55) a phlant Elizabeth (18) a John (12) yn byw yn Gwaryffynnon yn y Parsel Canol - yno o hyd yn 1861

25 January 2011 at 18:36  
Anonymous Gwenddolen said...

Diolch am yr wybodaeth hon -- byddaf yn ei phasio ymlaen. Ble yn y Parsel oedd Gwarffynnon plis?

25 January 2011 at 22:53  

Post a Comment

<< Home