O'r Parsel Canol

Saturday 1 January 2011

Diwedd cyfnod

Diwrnod cyntaf 2011, ac yn meddwl nôl ddeugain mlynedd i 1971, y flwyddyn y cwrddais â'r ysgolhaig Rachel Bromwich wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, a hynny yn Selwyn Gardens, Grange Road, Caer-grawnt, pan oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Roeddwn yn ystyried newid i wneud rhan II Anglo-Saxon, Norse and Celtic, a bûm yn trafod y posibiliadau gyda hi yn ei chartref ar ôl i ffrind i mi — Bentley Mathias, yn Peterhouse (cefnder i'r hanesydd Angela John) os cofiaf yn iawn — fy rhoi i mewn cysylltiad â hi. O Fedi 1971 ymlaen bûm yn astudio Hen Wyddeleg a Chymraeg Canol gyda hi. Symudodd i fyw i Orchard Street, lle roedd hi'n gwneud peth o'i dysgu (roedd Donald Meek ac eraill yn y dosbarth). Roedd sawl cyfaill imi â diddordeb mewn pethau Celtaidd — heb eu bod yn astudio'r pwnc — ffrindiau megis Steve Hewitt a Deri Thomas, ac roedd hi'n eu croesawu hwythau, ac aelodau Cymdeithas y Mabinogi. Cofiaf un tro fod Gwenael le Duc (m. 2006) o Lydaw wedi dod i ymweld (roedd ef wedi bod yn assistant ysgol yn Nghanolbarth Cymru pan oeddwn yn y chweched), a ninnau'n dau'n gwneud ein pererindod lawr i dy Rachel Bromwich. Trefnodd imi ymweld â'i mab a'i deulu yn Nulyn pan oeddwn ar gwrs yno yn haf 1972, ac yn yr un flwyddyn, i fynd gyda hi i'r School of Tropical Medicine a Hygiene yn Llundain i glywed un o ddarlithoedd y Cymmrodorion. Cofiaf y daith ar y trên — roedd hi wedi prynu'r tocyn imi yn barod pan gyrhaeddais yr orsaf — ac roedden ni'n dwy yn gwisgo dillad yr un lliw. Sgert hir a wneuthum fy hun oedd amdanaf, gyda phatrwm anifeilaidd canoloesol glas a gwyrdd o ddefnydd Laura Ashley. Mae'r sgert bellach yn glustog yn y gwaith. Y diwrnod hwnnw gwelais am y tro cyntaf Idris Foster, a hefyd Morfydd Owen a oedd ar y pryd yn dysgu yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Rwy'n meddwl mai Simon Evans oedd yn traethu y diwrnod hwnnw, ond ni allaf fod yn siwr o hynny.

Ddoe cynhaliwyd angladd Rachel Bromwich (a fu farw ar 15 Rhagfyr yn 95 oed) — yn Nhy'r Crynwyr ym Mhenparcau, ac yna yn yr Amlosgfa yn Llancynfelyn, dafliad carreg o Blas Cwmcynfelyn lle treuliodd ei blynyddoedd olaf. Teyrnged gan Meic Stephens yn yr Independent. Nid oedd trwy wybod i mi beth bynnag yn ddisgybl i Syr Idris Foster fel y dywedir yn yr erthygl, ond yn gyfaill iddo ac yn gymydog. Ni wyddwn tan yn ddiweddar iawn fod Syr Idris Foster wedi gweithio yn Intelligence yn ystod y Rhyfel.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home