O'r Parsel Canol

Saturday 30 April 2011

Y Briodas Frenhinol a'r Cyfarwyddwr Priodas

Newydd dderbyn deunydd diddorol gan fy hen ffrind Amy Lloyd Schrödinger a fydd o ddiddordeb efallai wrth feddwl ymhellach am briodasau, etc. Tamaid i aros pryd sydd yma, rhan o Cannwyll y Cymry, y llawlyfr etiquette sydd ganddi yn yr arfaeth.

Y Cyfarwyddwr Priodas: neu Ductor Nuptiarum

§Y Gwasanaeth
Anodd curo Capel Rug, Capel Gwydir, Capel Garthewin, neu ryw gapel preifat cyffelyb yn yr Henfro (gweler yr adran ar §Gwreiddiau). Llefydd eraill poblogaidd: eich hen goleg yng Nghaergrawnt — Sant Ioan, Coleg y Brenin neu Emmanuel o ddewis — ond peidiwch â boddran os buoch chi yn New Hall neu Girton. Yn Rhydychen, y tri ar y brig yw Coleg Iesu, Balliol, a Corpus (smart iawn). Byddwch yn gwahodd hen griw y Mabinogi/Dafydd, ac un o’r tiwtoriaid er mwyn canmol eich gallu cynhenid a thristáu na wnaethoch fwy o waith ac aros ymlaen i wneud ymchwil. Os Rhydychen yw’r venue, ychwanegwch yr Athro Celtaidd at eich rhestr — er mwyn ei enw a’i ach, a’r ffaith fod ei dad wedi bod yn gyfaill triw i Saunders pan oedd Ifor Williams, Ifor Evans, Henry Lewis, Iorwerth Peate a’r cnafon diffaith eraill wedi troi cefn arno. Treffynnon neu Ynys By^r oedd y llefydd delfrydol ar gyfer priodas Gatholig erstalwm, ond yn achos yr ail, bydd rhaid meddwl am gost y badau (a’r badau achub) ac effaith y gwynt ar y gwisgoedd a’r hetiau. Anghofiwch am unrhyw ynys arall — Enlli yn enwedig (ond gweler §Mis Mêl). Mynnwch wasanaeth gan yr Esgob Mahon; gwnaiff Y Tad Dorian y tro hefyd, neu unrhyw ddysgwr (da) o Wyddel.

Gwyn eich byd os yw eich tad yn offeiriad (nid Pabydd obviously ond ffeirad go-iawn) neu’n weinidog. Mae Tad-cu yn well fyth. P’run bynnag sydd gennych acw, dylech wneud yn fawr o’r cyfle i’w arddangos fel hyn yn ei gynefin. Bydd popeth yn OK — Tada (neu Tad-cu) yn holl ogoniant ei lifrai, nid yn ei hen fleece. Mam yn serennu. Bordydd llawn o hoelion wyth a blaenoriaid a chwiorydd. Cewch lot o farciau ychwanegol am hyn yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig gan y MCs. A dyma gyfle i ddangos i’ch ffrindiau yng Nghaerdydd fod cymuned gyfan y tu ôl i chi yn Pura Wallia, fod dim rhaid i chi setlo am briodas yn Minny Street neu Crwys. Dyma gyfle hefyd i bwysleisio fod Mam a Dad — os tlawd — yn gweld ymhellach na bling a’r Rotary Club a Chlwb Carafanwyr Cymru. Bydd yr ysbrydol wastad yn chwaethus.

I’r annuwiol sydd am wneud sblash, mae Eglwysi Cadeiriol yn gwneud y tro i’r dim — Tyddewi os oes modd, ond gellid ystyried Aberhonddu hefyd gan ei fod mor ganolog a’r parcio mor hawdd. Mae eisiau osgoi lle sydd yn ei alw ei hun yn Gadeirlan, yn hytrach nag yn Eglwys Gadeiriol (Bangor, Llandaf &). Yn yr ail reng, megis, y mae’r hen glasau fel Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr, Llandeilo Fawr, Llanilltud Fawr. Mae ‘Mawr’ fan hyn yn golygu ‘fel eglwys gadeiriol’, ‘cystal ag eglwys gadeiriol’. Nac anghofiwch ychwaith pa mor egsotig a chyffrous i’ch cyd-Gymry y mae enwau Llanddewi Ferwallt neu Llanfair Llythyfnwng a Betws y Crwyn a llannau arall na chlywodd neb erioed sôn amdanant. Bydd yr annuwiol diog yn torheulo’n braf ac yna priodi dan balmwydden yn Barbados neu’r Maldives — gyda llun i’w gofio yn y Cambrian News wedyn — ond dyw hynny ddim yn cael ei argymell gan y Cyfarwyddwr Priodas fwy na phriodas sifil in extremis mewn gwesty neu gofrestrfa.


§Y Neithior
Os gwesty amdani, un sy’n edrych fel ty preifat — mae Portmeirion yn lle diogel, cartrefol hyd yn oed, o leiaf yng ngolwg y crachach academaidd, syndics Bwrdd yr Iaith, llenorion yr Academi Gymreig a’u tebyg. Yn y De, mae Llangoed Hall yn ddewis cyfleus (coffa da am Laura Ashley o Ferthyr ’slawer dydd, a’i gwr Bernard a barodd ailwampio’r ty a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis). Wedyn mae plasty 'Prifysgol' Cymru, mewn lle bendigedig o anghysbell ym Maldwyn — cymaint felly fel mai dim ond athrawon coleg aballu sy’n debyg o wybod amdano, a dydyn nhw ddim yn gallu ei fforddio. Rhaid talu am y glanhawyr a’r porthorion a’r garddwyr ar ben pob dim arall, ac mae’n rheol sefydlog gan Wasanaethau Canolog y Brifysgol mai Gwasg Gregynog sy’n argraffu’r gwahoddiadau a’r bwydlenni hefyd, a bod pob gwestai yn prynu fascicle yr un o Geiriadur Prifysgol Cymru ‘i’w gyflwyno i’r pâr dedwydd ynghyd â phedwar rhwmiad iwrch Eryri i’w rhoi amdanynt i ffurfio pedair cyfrol hardd odiaeth, ffrwyth llafur tim o ddeg dros 50 blynedd, a thyst gadarn i hyfywedd yr iaith Gymraeg fel iaith dysg a iaith ysgolheictod o’r radd flaenaf’. Er bod Gregynog, felly, yn ei osod ei hun y tu hwnt i gyrraedd pobl gyffredin, ac mewn cae gwahanol i bobl normal, mae dewisiadau eraill. Er enghraifft, ychydig o filltiroedd o Lanfair ym Muallt, yn ardal ffasiynol y Ffynhonnau, mae’r Lake Hotel yn Llangamarch – so ‘Last Year at Marienbad’ ac yn dal yn rhesymol. Dyna rai o’r syniadau sy’n dod i’m meddwl i, ond rwy’n cyfaddef mai reit geidwadol yw chwaeth y Cyfarwyddwr a bod gan yr ifainc eu syniadau hefyd. Bu Melangell a Harri mewn priodas ddifyr iawn yn ddiweddar — retro-chic y Welfare Hall yn un o gymoedd y De — ac mae posibiliadau eironig eraill yn lleng, medden nhw — Sain Ffagan, y Gerddi Botaneg, Nanteos, Camera Obscura Aberystwyth (homage i stori fer enwocaf Mihangel Morgan), Oriel Glyn y Weddw (wel, fallai ddim), Hen Dy Ysgol Rhyd-ddu, neu ryw amgueddfa leol sy’n brin o arian. Mae popeth yn bosibl i’r arlwywyr, hyd yn oed Big Pit neu Garchar Abertawe.

Rhaid i’r Cyfarwyddwr Priodas nodi unwaith eto y pethau hynny sy’n debyg o ddwyn anfri ar y teuluoedd yn ddiarwybod iddynt: pebyll o unryw fath (pwy wnaeth y sêr uwchben?), bwydlenni sy’n matsio ffrog y briodferch, arnofwyr (‘coasters’), telyn ‘fyw’ yn y cornel, bwyd organig neu ganoloesol (alarch, medd &), areithiau aflednais neu Saesneg, ac, yn waeth na dim, clapio aflywodraethus. Â chryn ofid y noda’r Cyfarwyddwr Priodas fod y drwgarfer yma'n rhemp ym mhob digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, o’r Stedddfod i angladd Gwynfor Evans. Dywedir bod pobl Siapan yn chwerthin dros bob man yn nhragedïau Shakespeare yn Stratford; clapio a wna’r Cymry pan fyddant dan deimlad, neu pan glywant unrhyw ddatganiad awdurdodol gan ddyn ar lwyfan. Ond pethau amlwg yw’r rhain, mewn gwirionedd, a digon hawdd eu hosgoi. Diau y bydd pethau eraill yn mennu ar eneidiau mwy sensitif na'i gilydd — pobl fel Jean Rowlands neu Emrys Bebb. Ond at ei gilydd, mae pobl wedi dod i’r neithior i fwynhau, heb boeni’n ormodol am sut i sillafu prôn coctêl a synwyrusrwydd. Ond, a benthyg deilen o cahier yr Athro Rowlands, ac yn benodol o’i llyfr arloesol Dégustations, anogwn bobun i ymhyfrydu yn y différance sydd yn rhan anorfod o’r neithior Gymreig: yn unol â’r ysbryd hwn o jouissance, rhowch y josgins llon o Gwm-ann nesaf at eich Athro Celtaidd, eich hen fodrybedd Bessi a Polly rhwng y Brawd Densil a’i fam, y bardd-o-Loegr-a-fu’n-ffrind-i-Ted Hughes rhwng y ddau efell sy’n cynllunio celfi i IKEA o’u gweithdy yn Llanfynydd. Yr un fath efo’r bwyd: stwns, ffagots, fry-up, all-day breakfast, bwyd cysur, bwyd saim. Beluga a blinis. Fe wyddoch cystal â mi y bwydydd sy’n plesio pobl, bonedd a gwrêng fel ei gilydd. Plesio yw nod y neithior, a mwynhau, nid mynegi cenedlaetholdeb ar blât: cewch gadw eich bara lawr gwyrdd Bro Gwyr, corgimychiaid coch Conwy, gwin gwyn label Kyffin Williams. Ryw ddwy flynedd yn ôl, ym mhriodas Gwenfrewi, merch yr Uchelfarnwr Halévy-Price, gweinwyd cinio i 500 a phob saig ohono wedi’i dyfu yn organig gan 500 o daeogion iaith gyntaf a’r rheini dan orchymyn i ganu detholiad o ganeuon gwerin neu emynau (dewis rhydd) wrth lafurio â’r caib a’r rhaw a’r gyllell tuag ochrau’r Borth. Ar y ford o flaen pob gwestai gosodwyd carden ac arni lun du a gwyn: ‘Y mae eich bwyd heno wedi’i dyfu’n ofalus ar eich cyfer chwi gan Simeon/ Sacheus/ Reuben/ Rachel/ Leah’, a chylch o gwmpas y priod enw. ‘Canwyd y caneuon canlynol wrth imi weithio: “Bugeilio’r Gwenith Gwyn”/ “Fy Llong Fach Arian”/ “Finlandia”, arr. Lewis Valentine/ “Mae gen i dipyn o dy bach twt”/ “Eryr Pengwern’’. Olrhain y bwyd oedd y nod, sicrhau ei traceability. Trosedd a chosb. Fel hyn y dymunai’r Uchelfarnwr i bethau fod ar ddydd mor bwysig, mae’n debyg.

Manion eraill ar y pen hwn
Bydd y pâr darbodus, fel y pâr ansicr, yn anfon allan gyfarwyddyd neu yn hytrach orchymyn i’r gwahoddedigion i brynu eitem(au) neilltuol iddynt. Os bydd y gwahoddedigion yn methu dod i’r briodas, mae disgwyl iddynt anfon anrheg ’run fath. Yn y gorffennol, roedd siopau fel Howells, Caerdydd, neu David Evans yn gwneud y tro’n iawn, gyda Debenham’s, Marks and Spencers, neu hyd yn oed Hafren Furnishings yn ddewis synhwyrol, os dof, i’r parau mwy cyfyng eu gorwelion. Ond erbyn hyn, mae cwmnïau llai, ond mwy arbenigol, yn cynnig gwasanaeth personol a Chymreig — Toast Llandeilo, Melin Brynkir, Gwilym Williams a’i Ferch (ffefryn Llambed) — ac os nad yw’r rheini’n plesio, mae John Lewis, hen gwmni cydweithredol siort orau a gychwynnwyd gan Gymro (wel, o fath), yn ddewis saff.

Gofynnir yn aml a oes rhaid i ferched wisgo het i briodas. I ferched dros 25 oed, mae hynny’n ddymunol; i rai dros 40, mae’n hanfodol. Mae’r veil ar gynnydd, ac mae hynny’n gweddu’n dda i’r ferch aeddfed. Ni ddylai penwisg ar unrhyw gyfrif ymdebygu i benwisgoedd y Frenhines na’i diweddar fam, fodd bynnag, nac i benwisg orseddol, nac i Eryr Pengwern. Am yr un rheswm, sef i barchu teimladau’r llysieuwyr a’r gwrth-helwyr a allai fod yn y cwmni, dylid gochel rhag gwisgo crwyn, ffwr neu rannau anifeilaidd eraill ar eich corff, ac eithrio’r traed lle mae rheol arall ar waith sy’n gwahardd plastig, rwber, a deunyddiau synthetig cyffelyb.

Cwestiwn llosg arall y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef cyn gorffen yr adran hon yw cwestiwn y Mis Mêl, neu fel y byddai hi ’slawer dydd, y Bwrw Swildod. Maentumir gan lawer mai’r cyrchfan long haul i’r trofannau sy’n creu’r argraff fwyaf — Ciwba, efallai, neu ryw ynys bellennig arall lle mae modd ichwi ymrostio. Y gwir yw fod mynd i le oer a gogleddol yn fwy chwaethus o lawer, ac yn fwy cydnaws â natur dymheraidd y Cymry: felly ystyriwch y Baltig, efallai, y Faroes, neu Greenland, neu ryw weriniaeth yn rhywle sydd, neu a fu, dan orthrwm. Os teimlwch ar eich calon fod angen yr haul, yna mae nifer o wledydd lle mae lleiafrifoedd ieithyddol yn cwffio am eu hawliau: ysytyriwch fro’r iaith Ladino yr yr Alpau, neu Galicia (Santiago de Compostela, efallai), neu Bolzano yn y Südtirol, oll â cuisine blasus a gwinoedd diddorol, a dwn i ddim faint o bapurau dyddiol yr un. Bydd y gwir Gymry yn eich plith, fodd bynnag, yn llwyddo i gyfuno’r Mis Mêl â’r Steddfod. Bydd sawl man deniadol yn ymgynnig yn ystod y blynyddoedd nesaf — Caerdydd, Lerpwl hyd yn oed, a phwy a wyr na fydd Fforest y Ddena neu Weston-super-Mare yn y ras cyn diwedd y degawd? Bydd cadw golwg ar golofnau Jean Rowlands ar froydd y Steddfod a’u tai bwyta a’u gwestai cartrefol yn gryn help ichi wrth gynllunio eich Wythnos Fawr.

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

'Duw a wn^el i hyn o Gannwyll, Roi i'r dall oleuni didwyll'. Rhys. P (yr hen fic)

Ceir yma gyngor gwych i rai sydd mewn penbleth priodasol. Tybed a sylwodd Ms.Schrödinger ar wahaniaethau mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru? A fyddai'n weddus i fashionista o ddeheuwraig, dyweder, fentro i briodas ogleddol ^a blodau yn ei gwallt (er mwyn osgoi edrych fel eryr pengwern, wrth reswm) ynteu a fyddai hynny'n rhy avant-garde?

21 May 2011 at 18:58  
Anonymous Anonymous said...

Mae Gwenddolen wedi holi Dr Schrödinger: mae hi'n cymeradwyo blodau ffres (gwyllt, nid o'r ardd), ond yn meddwl y gallai ysgeintio fioledau crystallized (o Florian's) rhwng clystyrau'r gwallt fod yn syniad bach gwahanol arall . . . . .

22 May 2011 at 22:21  

Post a Comment

<< Home