Missing lynx
Yn ofnadwy o drist na fyddaf yn medru ymweld eto â'm hoff anifeiliaid gwyllt, sef y ddau frawd sy'n byw yn yr Anifeilfa. Dau frawd, dau lynx, Amis ac Amiloun y Borth, sydd wedi bod gyda'i gilydd drwy gydol eu hoes, ac wedi symud sawl gwaith o le i le. . . . gobeithio'n wir y byddant yn cael cartref ynghyd i ddiweddu eu hoes yng nghwmni ei gilydd. Mae'r anifeiliaid wastad wedi edrych yn ddigon hapus eu byd yn y Borth, rhaid dweud, a gresyn o beth fod y perchnogion nawr yn gorfod eu hildio (ynghyd â llewpart a chreaduriaid eraill) am nad oes ganddynt 'y gwaith papur' priodol. Mae rhai (Hetherington, Lord & Jacobs) yn dadlau mai lyncs yw'r llewyn yn y gerdd Pais Dinogad (?7g) sy'n ffitio gyda'r esgyrn lyncs o'r 6g a ddarganfuwyd ger Rhaeadr Derwennydd ar ochr ddeheuol Derwentwater yn Ardal y Llynnoedd. Mae rhai hefyd yn dweud y dylid ailgyflwyno Lynx lynx i ucheldir Prydain, fel sydd wedi cael ei wneud yn yr Alpau, ym mynyddoedd yr Harz, y Jura, ac yn y blaen. Manylion yn yn y Journal of Quaternary Science, 2005, via R. Geraint Gruffydd (pwy arall?).
0 Comments:
Post a Comment
<< Home