O'r Parsel Canol

Saturday 4 September 2010

Yay! Hen rif sir Faesyfed

Llawenydd mawr, a rhywbeth i dynnu dwr o ddannedd Tredelyn, gobeithio. Wedi cael car ail-law newydd yn Forge, Ffos-y-ffin, a ffeindio mai rhif MFO, sef hen rif sir Faesyfed slawer dydd, sydd arno. Roedd y car cyntaf a oedd gennym fel teulu (fan werdd A35 fel yr un yn y llun uchod) yn rhif FO o Norton's. Yna AFO, DFO. . . . . nes i bob dim newid gyda'r rhifau. Sir Frycheiniog yn EU os cofiaf yn iawn. Rwy'n gweld Dr Edwards, Meddygfa'r Llan, yn gyrru car mawr â rhif isel -- rhywbeth fel EC 10. Roedd gennyf innau feic modur 'rhif isel' slawer dydd, sef BAW 9L (rhif swydd Amwythig). Sda fi gynnig i rifau personol ond rwy'n cymeradwyo rhifau tiriogaethol.

3 Comments:

Anonymous tredelyn said...

Rwy'n genfigennus iawn

5 September 2010 at 11:07  
Anonymous Anonymous said...

Mae hiraeth arna i ar ôl hen rifau'r siroedd. Dwi'n dal i ecseitio pan fydda i'n gweld BX neu EJ ar hewlydd y gogledd cyn sylweddoli mai llythrennau ar hap ydyn nhw o dan y drefn newydd.
Dw inne'n gweld rhywbeth yn ddi-chwaeth am rifau personol - yn enwedig ar geir a hersiau trefnwyr angladdau! Ond mae 'na ambell i berl fel MI5TEC a CI6YDD

9 September 2010 at 11:42  
Anonymous Gwenddolen said...

Sylweddoli nawr mai EJ 10 yw Dr Edwards, nid EC -- hen rif sir Aberteifi wrth gwrs a etifeddwyd gan ei dad, mae'n siwr. Enwau ar ddwy sedd loriau mawr yn hwyl hefyd - yr un gorau a welais i oedd KEVIN (y gyrrwr) a VACANT.

9 September 2010 at 13:02  

Post a Comment

<< Home