O'r Parsel Canol

Monday 9 August 2010

Trafodion pwysig

Newydd dderbyn Transactions of the Radnorshire Society, y gyfrol am 2008, sy'n cynnwys am y tro cyntaf gyfieithiad i'r Saesneg o ran gyntaf gwaith arloesol a swynol Ffransis G. Payne, Crwydro Maesyfed. Dyma lafur cariad gan Dai Hawkins (Dafydd y Garth), ac mi fydd yn agoriad llygad i drigolion yr ardal nad ydynt yn medru'r Gymraeg. Gyda llyfr Peter Conradi At the Bright Hem of God, a llyfr gwych Richard Suggett ar dai'r gororau, mae'r hen sir annwyl yn mwynhau orig fach eto yn yr haul. Da oedd clywed am y grant sydd wedi'i roi i eglwys Llananno hefyd.
Mae pamffledyn anodd-cael-gafael arno o'r enw Am y Ffin a'r Gorffennol (1993) yn ddarlith lenyddol a draddodwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd nôl yn 1993. Mae'n crynhoi peth o hanes llenyddol yr ardal yn yr oesoedd canol.

Labels:

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Beth sydd mor arbennig am Lananno?

11 August 2010 at 23:43  
Anonymous Gwenddolen said...

Y cerfio ar y groglofft yw'r trysor pennaf -- o ddiwedd y 15g neu ddechrau'r 16g. Mae'r safle hefyd yn hyfryd ar lan afon Ieithon.

13 August 2010 at 19:17  

Post a Comment

<< Home