O'r Parsel Canol

Sunday 8 August 2010

Gwanwyn

Roedd gwedd etymolegol ar y bregeth a gawsom yn y capel heddiw (nid gan ein bugail ni). Cafodd y gair gwanwyn ei egluro fel gwan 'weak' + wyn 'lambs' — am mai tymor y defaid a'r wyn yw'r gwanwyn a'r wyn yn dal i fod yn ifanc ac yn wan. I wish. Gwaeanwyn gydag -a- arall yn y canol oedd y gair slawer dydd. A'r gair yn dod o hen air Celtaidd y mae'r geiriaduron yn dweud sy'n perthyn o bell i'r gair Lladin ver 'gwanwyn', etc. — pwy fuasai'n credu? A oes un o'r selogion wedi cael blogspot i ganiatáu rhoi to bach ar w ac y, gyda llaw?

2 Comments:

Blogger Gwybedyn said...

wn i ddim am ffordd i'w wneud yn uniongyrchol (ascii?) ond dylai fod yn hawdd mewnforio Ŵŵ ac ŷŶ o Word.

11 August 2010 at 15:59  
Anonymous Gwenddolen said...

Diolch Gwybedyn. Mi driaf eto — dyma ni lambs ˘yn. Na, wnaiff ffont Padarn ddim trosglwyddo. Daria!

11 August 2010 at 17:19  

Post a Comment

<< Home