Golau'r Epynt
O'r diwedd cefais weld y cynhyrchiad cyffrous hwn gan Gwmni Drama Ffermwyr Ifainc Brycheiniog. Cafwyd un perfformiad yn barod yn Aberdyfi pan enillodd y cwmni yn y gystadleuaeth genedlaethol, ac fe gollais y cynhyrchiad ym Mhontsenni wedyn. Canslwyd y perfformiad a oedd i fod yn Llanfair (yng Nghanolfan Wyeside), ond neithiwr roedd y Guildhall, Aberhonddu dan ei sang, a'r awyrgylch yn wefreiddiol. Llywyddwyd y noson gan Mr Glyn Powell o Bontsenni a oedd fel petai'n nabod pawb yn y gynulleidfa: deinamo o ddyn. Yno hefyd roedd Euros Lewis, un o awduron y ddrama a gafodd ef ei godi yn Llanwrtyd, a dyna pam roedd y sgript yn cynnwys rhai o eiriau'r dafodiaith leol (los am ferch, Saes. lass, etc.). Roedd y darpar archdderwydd, T. James Jones (Jim Parc Nest), yno hefyd yn darllen o'i awdl Y Ffin a enillodd y Gadair yn Steddfod Genedlaethol 2007. Dyma gerdd, fel y ddrama, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau 1940 pan feddiannwyd Epynt gan y fyddin a throi'r trigolion allan o'u ffermydd. Roedd Y Parchedig Herbert Hughes hefyd yn y gynulleidfa yn ôl y sôn: mae ganddo ddau lyfr pwysig ar hanes Epynt, ynghyd â llyfr newydd sy'n ddetholiad o bapurau'r amaethwr a'r hynafiaethydd, Evan Jones, Ty'n-pant, Llanwrtyd. Cefais noson wrth fy modd, a mwynhau'r daith dros Epynt y ddwy ffordd yng nghwmni f'ewythr John, a thair o Gymraesau Llanwrtyd, Luned, Delyth a Betty. Cefais gip ar hen ddisgybl imi, B. Siân Reeves, awdur y nofel Nest. Mae hi'n byw yn Aberhonddu ac yn gwneud llawer dros y Gymraeg yn y cyffiniau.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Epynt ym mis Awst i weld cynhyrchiad Mike Pearson o ddrama Aeschylus, The Persians sydd yn mynd i gael ei rhoi ymlaen gan y Theatr Genedlaethol ynghanol y maes tanio, yn y pentref 'Almaenig' a ddefnyddir i hyfforddi milwyr i wynebu rhai o'r sefyllfaoedd peryclaf yn y byd (fel yn Stormbreaker, y ffilm o lyfr Anthony Horowitz). Yn ôl yr wybodaeth, 'the audience will be bussed to the performance site over 10 days in August 2010'. Mwy i ddilyn.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home